Griffith Jones, Llanddowror

diwygiwr crefyddol ac addysgol

Griffith Jones (16838 Ebrill 1761), a adnabyddir gan amlaf fel Griffith Jones, Llanddowror, oedd sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig. O fewn 25 mlynedd gwelwyd agor 3,495 o ysgolion a dysgodd 158,000 sut i ddarllen.[1]

Griffith Jones, Llanddowror
Ganwyd1684 Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ebrill 1761 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Y Frenhines Elisabeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethclerig, addysgwr Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Griffith Jones (actor)

Roedd yn frodor o Ben-Boyr, Sir Gaerfyrddin, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a'i ordeinio ym 1708. Ym 1716 cafodd reithoriaeth ym mhentref Llanddowror. Bu'n aelod brwdfrydig o'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.

Ym 1731 dechreuodd sefydlu ei ysgolion cylchynol enwog. Addysgid trigolion un ardal am dri mis cyn i'r gwaith symud ymlaen i ardal arall. Fel arfer yn y gaeaf y cynhaliwyd y gwersi pan oedd gan y ffermwyr a'u teuluoedd amser i'w mynychu. Dysgai'r ysgolion blant ac oedolion i ddarllen trwy astudio'r Beibl Cymraeg a thrwy adrodd Catecism Eglwys Loegr. Noddwyd yr ysgolion cylchynol gan Bridget Bevan, merch y dyngarwr, John Vaughan (1633-1772), a'i chysylltiadau ariannog yn Llundain a Chaerfaddon. Ysgrifennai Griffith Jones adroddiadau blynyddol ar gyfer ei noddwyr o dan y teitl, Welsh Piety;[2] ynddynt byddai'r awdur yn adrodd ar gynnydd yr ysgolion ac yn ymbil â'r noddwyr am ragor o arian.[3] Erbyn iddo farw roedd 3,495 o ysgolion wedi'u sefydlu mewn 1,600 o lefydd a Chymru ymysg gwledydd mwyaf llythrennog y byd.

Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng Nghymru cyn hynny ers diddymu'r mynachlogydd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Gwyn Davies, Griffith Jones, Llanddowror, Athro Cenedl (1984)
  • Geraint H. Jenkins, Hen filwr dros Grist (1983)
  • R. T. Jenkins, Griffith Jones, Llanddowror (1930)
  • D. Ambrose Jones, Griffith Jones, Llanddowror (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1923). 'Cyfres Arweinwyr Cymru' I. Arolwg cynhwysfawr o'i waith a'i fywyd.
  • E. Wyn James, ‘Griffith Jones (1684–1761) of Llanddowror and His “Striking Experiment in Mass Religious Education” in Wales in the Eighteenth Century’, yn Volksbildung durch Lesestoffe im 18. und 19. Jahrhundert / Educating the People through Reading Material in the 18th and 19th Centuries, gol. Reinhart Siegert (Bremen, Yr Almaen: Edition Lumière, 2012), 275-92. ISBN 978-3-943245-03-5; adargraffwyd yn The Carmarthenshire Antiquary, 56 (2020), 63-73. ISBN 0142-1867. http://orca.cf.ac.uk/137515/

Cyfeiriadau golygu

  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  2. Jones, Griffith (Griffith Jones, Llanddowror, 1683-1761) (1753?). Welsh Piety: or, a collection of the several accounts of the circulating Welch charity schools: from their first rise in the year of 1737, to Michaelmas, 1753: in several letters to a friend. London: Printed by J. Oliver. Check date values in: |year= (help)CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. Davies, J. (1992). Hanes Cymru. London: Penguin Books. ISBN 0-14-012570-1.