Griffith Rowlands

llawfeddyg (1761-1828)

Llawfeddyg o Gymro oedd Griffith Rowlands (9 Ebrill 176129 Mawrth 1828).

Griffith Rowlands
Ganwyd9 Ebrill 1761 Edit this on Wikidata
Harlech Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1828 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysbyty St Bartholomeus Edit this on Wikidata
Galwedigaethllawfeddyg Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ar ôl treulio ei brentisiaeth fel llawfeddyg yn Lerpwl, llwyddodd i gael lle yn Ysbyty St. Bartholomew, Llundain. Ar ôl cwblhau saith mlynedd o addysg feddygol, cafodd ei dderbyn fel aelod o'r Cwmni Llawfeddygon, rhagflaenydd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar yr 1 Awst 1782. Roedd yn llawfeddyg y ty yn ysbyty Bartholomew yn Llundain am ddwy flynedd. Cyn ymsefydlu fel llawfeddyg yng Nghaer. Yn 1785 apwyntiwyd ef yn llawfeddyg i glafdy'r ddinas a bu yn y swydd am 43 o flynyddoedd.

Griffith Rowlands oedd un o'r llawfeddygon cyntaf yn Ewrop i drin claf trwy dorri'r dwy ben yr asgwrn hefo llif. O dan ei driniaeth torrwyd bawd Thomas Charles o'r Bala yn 1799 ar ôl iddo deithio noson rhewllyd lle cafodd losg rhew ar ei fawd. Gyda chymorth Rowlands hefyd y tynnwyd carreg yn pwyso dwy owns a chwarter o bledren Thomas Jones o Ddinbych yn 1802.[1]

Ffynonellau

golygu
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, II, 526-7;
  • G. P. Jones,Newyn a Haint yng Nghymru a phynciau meddygol eraill (Caernarfon, 1962, 1963), 161-63;
  • T. Jones, Hunangofiant (1820, 1937), gol. Idwal Jones (1937), 41-43.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "ROWLANDS, GRIFFITH (1761 - 1828), llawfeddyg | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-25.