Groasis Waterboxx

bocs deorifa i dyfu coed mewn sychdir

Mae'r Groasis Waterboxx yn ddyfais a gynlluniwyd i gyhorthwyo coed i dyfu mewn sychdir heb yr angen am ddyfrio wedi'r gosodiad cychwynnol. Fe'i dyfeisiwyd gan Pieter Hoff cyn masnachwr a thyfwr blodau o'r Iseldiroedd.[1] Mae'r ddyfais wedi ennill amryw o wobodau ecolegol, mentergarwch ac ailgoedwigo ac fe'i defnyddr mewn dros 90 o wledydd gan gynnwys Dubai, Mecsico, Sbaen, Yr Ariannin.[2][3]

Pwrpas y Groasis Waterboxx golygu

Yn ôl Pieter Hoff mae'r byd wedi colli 2 biliwn erw o goedwigoedd dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf. Effaith hyn mewn sawl rhanbarth, ynghŷd â gor-bori a thechnegau amaethu byr-dymor, yw creu tir diffaith. Noda Hoff, er bod dŵr yn y ddaear ei fod yn aml yn rhy isel yn y pridd i goed bychain i gynhyrchu gwreiddiau i'w gyrraedd. Mae technoleg Groasing Technology yn ceisio dynwared natur - bioddynwared[4] er mwyn tyfu coed mewn sychdir ac anialwch a chreigiau gan rhoi cyfle a sbardun i goed oroesi a thyfu gwreiddiau digon dwfn yn y ddwy neu dair blynedd gyntaf fel eu bod yn hunangynhaliol wedyn. Wedi i'r coed dyfu i lawn dwf, gwelir bod dŵr glaw a llifddwr yn cyniwair a sefyll yn hwy ar y tir gan ei ffrwythlonni a bod cysgod y coed a system y gwreiddiau yn ei gwneud yn haws i blanhigion eraill dyfu a goroesi.

Cynullun golygu

Mae'r Groasis Waterboxx yn fwced polypropylene gyda chaead aro.[5] Mae iddo dwnel fertigol yn y canol ar gyfer dau blanhigyn. Mae wic yn gweithredu fel sianel i drosglwyddo llif bychan ond cyson o'r dŵr o du fewn y bocs i'r ddaear drwy weithred capilari. Yn hyn o beth mae'r Waterboxx yn dynwared effaith insiwleiddio baw carthion adar neu anifeiliaid ar gyfer egino hadau.[6][7] Mae caead y Boxx wedi ei arwynebu â mân papilau, sy'n creu arwynebedd uwch-hydroffobig (gwrth-sefyll dŵr) yn debyg i arwyneb deilen lotus. Canlyniad hyn yw fod diferion dŵr tarth neu wlith ddim yn aros ar yr arwyneb ac anweddu ond yn hytrach yn llifo fewn i grombil y Waterboxx gan ychwanegu at y dŵr i ddyfro'r gwraidd.[8][9]

Mae'r bocs yn gweithredu fel doerydd i'r planhigyn gan gynnig cysgod i'r egin ifanc a hefyd y tir oddi amgylch rhag haul cryf neu amrywiaethau mawr yn y tywydd gan hefyd diwallu'r planhigyn â dŵr dros gyfnod hir. Bydd y caead yn casglu dŵr drwy law neu cyddwysiad fin nos sydd yna'n cael ei storio. Bydd y cronfa ddŵr tu fewn y bocs yn rhyddhau oddeutu 50 ml y dydd drwy'r wic. Mae'r mesur bychan yma o ddŵr yn ddigon i sbarduno'r goeden i ddatblygu strwythur prif wreiddyn cwydn a chynhyrchiol. Mae'r bocs hefyd yn gweithredu fel amddiffyniad i'r dŵr ar arwyneb y tir a bydd y dŵr yma'n rhaeadru i lawr i'r pridd yn hytrach na chael ei tynnu i'r arwyneb ac yna anweddu.[3] Mae tymheredd a lleithder oddi tan a thu fewn y bocs yn sefyll yn lled-gyson drwy'r dydd a'r nos.[7]

As of 2010, the development has taken 7 years at a cost $7.1 million.[10]

Sbarduno'r Prif Wraidd golygu

Mae dyfeisydd y Waterboxx, Pieter Hoff, yn ladmerydd cryf o blaid gwerth a phwysigrwydd datblygu prif wreiddyn gref er mwyn hyfywdra planhigion mewn tir crin. NOdir bod y bocs yn gollwng digon o ddŵr i gadw'r coeden yn fyw ond drwy ddefnyddio system y wic, a cheisio cadw system capilari y pridd yn agored mae'r dŵr yn dylifo i lawr gan orfodi'r prif wreiddyn i dyfu'n gryf am y lawr ac at pridd gwlypach neu ffynhonnell ddŵr. Erbyn i fywyd naturiol y Waterboxx ddod i ben bydd prif wreiddyn y goeden wedi tyfu yn ddigon dwfn fel bod y planhigyn yn hunangynhaliol.

Cerbyd Tyllu i Blanu golygu

Mae'r cwmni wedi addasu tractor a dril capilari [11] ar gyfer creu tyllu bâs ar gyfer dodi Waterboxx mewn lle ar drin crin a chaled iawn (megis mewn gwledydd Arabia).[12]

Defnydd o'r Waterboxx golygu

Arbrofwyd gyda'r bocs am 3 mlynedd ym Mhrifysgol Mohamed Premier ym Morocco lle bu i bron 90% o'r planhigion oroesi o'u cymharu â 10% o blanhigion a blanwyd heb y bocs.[13][14]

Ers hynny, mae'r Waterboxx wedi ei ddefnyddio'n llwyddiannus mewn amrywiaeth o diroedd, gwledydd ac hinsawdd:[2]

Y Growboxx newydd Ailgylchadwy golygu

Addaswyd y Waterboxx i greu fersiwn a ellir ei hailgylchu o'r enw y Growboxx.[19] Mae'n fwced o bapur wedi ei hailgylchu sy'n para am oddeutu blwyddyn cyn y gall ei hun fod yn borthiant organig i'r coeden. Mae cost y Growboxx oddeutu deg gwaith yn rhatach.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Witkin, Jim. Developing a ‘Water Battery’ for trees New York Times, 9 April 2010. Accessed: 5 December 2010.
  2. 2.0 2.1 https://www.groasis.com/en/projects/blog
  3. 3.0 3.1 AquaPro Holland Groasis Waterboxx Archifwyd 2013-12-09 yn y Peiriant Wayback. Popular Science. Accessed: 5 December 2010.
  4. Susan Kraemer, "Inventor Uses Biomimicry To Create Dew", Cleantechnica.com
  5. Parsons, Sarah. Groasis Waterboxx can grow trees in any climate – even the desert Inhabitat, 4 December 2010. Accessed: 5 December 2010.
  6. Buczynski, Beth. New tree-growing device inspired by bird poop Archifwyd 2018-07-02 yn y Peiriant Wayback. Care2, 30 November 2010. Accessed: 5 December 2010.
  7. 7.0 7.1 Coxworth, Ben. Groasis Waterboxx lets trees grow up in unfriendly places GizMag, 18 November 2010. Accessed: 5 December 2010.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-01. Cyrchwyd 2018-12-30.
  9. http://www.groasis.com/en/technology/the-different-forms-of-condensation
  10. Binns, Corey. Invention Awards: A box that keeps plants hydrated in the desert Popular Science, 25 May 2010. Accessed: 6 December 2010.
  11. https://www.groasis.com/en/summary/make-6-000-planting-holes-for-trees-per-day-under-the-most-difficult-circumstances
  12. https://www.youtube.com/watch?v=ld_-lp0LTzM
  13. Fernandes; Sunil. Oil & Gas page 34-36 Oil & Gas Review, May 2010. Accessed: 5 December 2010.
  14. Growing trees in the desert, with the aid of a 'Waterboxx' Voice of America, 12 August 2010. Accessed: 5 December 2010.
  15. Thinking inside the Groasis Waterboxx solves deforestation, water depletion, food shortage PR Newswire, 22 June 2010. Accessed: 5 December 2010.
  16. Kasica, Stephen. Eagle River gets restoration tips from the Sahara Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback. Vail Daily 23 May 2012. Retrieved: 6 June 2012.
  17. New Tree Seedlings Planted Along North Austin Bus Routes Archifwyd 2013-10-02 yn y Peiriant Wayback. 30 March 2012. Retrieved: 6 June 2012.
  18. Waterboxx experiment[dolen marw] Sustainable Neighborhoods of North Central Austin 23 May 2012. Retrieved: 6 June 2012.
  19. https://www.groasis.com/en/products/plant-trees-and-bushes-in-dunes-and-deserts-with-the-biodegradable-growboxx