Grub Street
Stryd yn Ninas Llundain, ger Moorfields, oedd Grub Street a leolwyd rhwng Fore Street a Chiswell Street yn hen ardal Cripplegate. Mae'r enw yn gyfystyr â chylchoedd llenyddol Llundain yn ystod y 18g, yn enwedig yr oes Awgwstaidd.
Darluniad o Grub Street o'r Book of Days (1864) gan Robert Chambers. | |
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Llundain |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5203°N 0.0908°W |
Roedd adeiladau'r stryd yn cynnwys ystafelloedd clwydo, tai coffi, a phuteindai. Yno, o'r 17g hyd at ddechrau'r 19g, preswyliodd nifer o awduron mân-hanesion, geiriadurwyr, beirdd ffwrdd-a-hi, a chrachlenorion eraill yn ysgrifennu am dâl. Daeth y gair grubstreet felly yn drawsenw i ddisgrifio llên ddibwys neu ysgrifeniadau undydd o'r fath.[1]
Bu'r cylchgrawn llenyddol The Grub Street Journal (1730–37) yn dychanu cylchoedd llenyddol Llundain. Ymddengys golygfeydd o fywyd Grub Street yn y nofelau The Expedition of Humphry Clinker (1771) gan Tobias Smollett a New Grub Street (1891) gan George Gissing. Defnyddir yr enw Grub Street o hyd i ddisgrifio gwaith ysgrifenedig byrhoedlog neu ystrydebol, neu i ddilorni sgriblwyr am dâl, yn enwedig newyddiadurwyr.
Newidiwyd enw'r stryd i Milton Street ym 1830.[2] Bellach lleolir ystâd y Barbican ar safle'r hen Grub Street.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), t. 427.
- ↑ (Saesneg) Grub Street. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2021.
Darllen pellach
golygu- Pat Rogers, Hacks and Dunces: Pope, Swift and Grub Street (Llundain: Methuen, 1980).