José de San Martín

Cadfridog o'r Ariannin oedd José Francisco de San Martín y Matorras (25 Chwefror 177817 Awst 1850)[1] a oedd yn brif arweinydd rhyfeloedd annibyniaeth yr Ariannin, Tsile, a Pheriw oddi ar Ymerodraeth Sbaen.

José de San Martín
GanwydJosé Francisco de San Martín y Matorras Edit this on Wikidata
25 Chwefror 1778 Edit this on Wikidata
África Edit this on Wikidata
Bu farw17 Awst 1850 Edit this on Wikidata
Boulogne-sur-Mer Edit this on Wikidata
Man preswylBuenos Aires, Madrid, Llundain, Lima, Paris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal Seminary of Nobles of Madrid Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, gwleidydd, milwr Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Periw, Llywodraethwr Mendoza, Commander-in-Chief of the Chilean Army Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPatriot Edit this on Wikidata
TadJuan D' San Martin y Gómez Edit this on Wikidata
MamGregoria Matorras, Rosa Guarú Edit this on Wikidata
PriodMaría de los Remedios de Escalada Edit this on Wikidata
PlantMercedes Tomasa San Martín y Escalada Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Haul, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Genedlaethol San Marcos Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn Yapeyú, Rhaglawiaeth Río de la Plata, a leolir heddiw yn Nhalaith Corrientes, yr Ariannin. Symudodd gyda'i deulu i Sbaen yn 1783, ac ymunodd â'r fyddin yn 11 oed. Brwydrodd yn erbyn lluoedd Napoléon yn Rhyfel Iberia o 1808 i 1811.

Aeth i Buenos Aires yn 1812 ac ymunodd â Thaleithiau Unedig Río de la Plata yn y chwyldro yn erbyn Ymerodraeth Sbaen. Enillodd fuddugoliaeth yn erbyn y Sbaenwyr ym Mrwydr San Lorenzo (1813), ac arweiniodd Fyddin y Gogledd yn 1814. Cynlluniodd i drechu lluoedd Sbaen drwy sefydlu byddin i groesi'r Andes ac ymosod arnynt ar hyd arfordir y Cefnfor Tawel. Enillodd Tsile ei hannibyniaeth yn sgil brwydrau Chacabuco a Maipú (1818).

Arweiniodd San Martín lynges i ymosod ar luoedd Sbaen yn Rhaglawiaeth Periw. Yn sgil buddugoliaeth yn Lima yn 1821, penodwyd San Martín yn Amddiffynnydd Periw. Bu'n cwrdd â Simón Bolívar ar 22 Gorffennaf 1822 yn Guayaquil, Ecwador, a chymerodd Bolívar yr awenau yn chwyldro Periw. Ymddeol o'r fyddin a wnaeth San Martín, ac ymfudodd i Ffrainc yn 1824. Bu farw yn Boulogne-sur-Mer yn 72 oed.

San Martín yw un o arwyr cenedlaethol yr Ariannin a Pheriw, ac un o Libertadores De America. Enwir yr anrhydedd uchaf a wobrwyir gan lywodraeth yr Ariannin, Urdd y Cadfridog San Martín, ar ei ôl.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) José de San Martín. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ebrill 2019.