Guernica (llun)
Paentiad olew ar gynfas gan Pablo Picasso yw Guernica (1937), efallai yr enwocaf o'i ddarluniau.
Enghraifft o'r canlynol | paentiad |
---|---|
Crëwr | Pablo Picasso |
Deunydd | paent olew, cynfas |
Dechrau/Sefydlu | 1937 |
Genre | peintio hanesyddol |
Lleoliad | Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint, dan hawlfraint |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 26 Ebrill 1937 bomiwyd tref Gernika yng Ngwlad y Basg gan awyrennau Almaenig oedd yn ymladd dros Francisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Pan gomisiynwyd Picasso gan Lywodraeth Weriniaethol Sbaen i greu murlun ar gyfer Ffair y Byd ym Mharis yn 1937, ysbrydolwyd ef i gymeryd y digwyddiad hwn fel pwnc. Mae'n ymdrech i gyfleu erchylltra'r digwyddiad mewn symbolau.
Am flynyddoedd, bu Guernica yn Amgueddfa Celfyddyd Fodern yn Efrog Newydd. Dychwelwyd ef i Sbaen yn 1981, ac arddangoswyd ef yn y Casón del Buen Retiro ym Madrid. Yn 1992 symudwyd y darlun i'r Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía, hefyd ym Madrid, lle mae ar hyn o bryd. Cred cenedlaetholwyr Basgaidd y dylai fod yn cael ei arddangos yng Ngwlad y Basg.