Gernika
Tref yn nhalaith Bizkaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Gernika (Basgeg: Gernika, Sbaeneg: Guernica). Gyda thref gyfagos Lumo ("Luno" yn Sbaeneg) mae'n ffurfio ardal ddinesig Gernika-Lumo, sydd â phoblogaeth o 17,050 (2023).
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Gernika-Lumo |
Poblogaeth | 17,050 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | José María Gorroño Echebarrieta |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Pforzheim, Boise, Berga |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Basgeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q107556238 |
Sir | Busturialdea |
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Arwynebedd | 8.6 km² |
Uwch y môr | 10 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Ajangiz, Arratzu, Errigoiti, Forua, Kortezubi, Muxika |
Cyfesurynnau | 43.3169°N 2.6767°W |
Cod post | 48300 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Guernica y Lumo |
Pennaeth y Llywodraeth | José María Gorroño Echebarrieta |
Mae Gernika o bwysigrwydd mawr yn hanes Gwlad y Basg, oherwydd y cyfarfodydd a gynhelid dan dderwen Gernika, a elwid y Gernikako Arbola. Daeth y cyfarfodydd hyn yn symbol o hawliau traddodiadol Gwlad y Basg. Ar 26 Ebrill, 1937, bomiwyd Gernika gan awyrennau Almaenig oedd yn ymladd dros Fransisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Dyma oedd un o ymosodiadau cyntaf Luftwaffe yr Almaen Natsiaidd. Disgrifiwyd yr ymosodiad gan Winston Churchill fel "an experimental horror".[1] I gofio'r ymosodiad, codwyd Amgueddfa Heddwch yn y ddinas.
Ysbrydolodd hyn ddarlun enwog Pablo Picasso: Guernica (llun).
Hanes
golyguSefydlwyd Gernika gan yr Iarll Tello ar 28 Ebrill 1366 ar groesffordd bwysig; y ffordd rhwng Bermeo a Durango ar y naill law a'r ffordd rhwng Bilbao ac Elantxobe ar y llall. Mae pwysigrwydd y lleoliad hefyd yn y ffaith ei fod ar lan afon ble angorai llongau ym mhorthladd Suso.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan www.gernika-lumo.net; Archifwyd 2015-11-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Ebrill 2015