Meddyg ac un o wleidydd mwyaf dylanwadol yr Ariannin yn y 19g oedd Guillermo Rawson (24 Mehefin 1821 - 20 Ionawr 1890). Trwy gytundeb a arwyddwyd ym 1862 rhododd ef dir i'r Cymry i godi'r Wladfa arno.

Guillermo Rawson
Ganwyd24 Mehefin 1821 Edit this on Wikidata
San Juan Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 1890 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Y Gyfadran Feddygol, Buenos Aires
  • Colegio Nacional de Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin Edit this on Wikidata
TadAmán Rawson Edit this on Wikidata

Ei rieni oedd Amán Rawson, meddyg oedd wedi dod o'r UDA i'r Ariannin, a María Jacinta Rojo, merch teulu cyfoethog o San Juan, y ddinas lle cafodd Guillermo Rawson ei eni. Ar ôl mynychu ysgol Jesuit San Juan, cafodd radd doctor o gyfadran feddygol Prifysgol Buenos Aires ym 1844. Sut bynnag, roedd e'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth hefyd, ac, ar ôl gwrthwynebu Banavídez, llywodraethwr San Juan, cafodd ei garcharu ym 1853. Serch hynny, daeth i fod yn aelod o Gyngres Paraná y flwyddyn wedyn ac yn llywodraeth Bartolomé Mitre fe'i penodwyd yn weinidog materion mewnol yr Ariannin o 1862 ymlaen.

Nid ei unig ddiddordeb oedd gwleidyddiaeth: gwelodd bwysicrwydd meddygaeth a hylendid hefyd. Ym 1876 aeth i Gyngres Philadelphia i gyflwyno ei waith dros hylendid Buenos Aires, y gwaith mwyaf cyflawn am y pwnc yn ei ddydd.

Cerflun i Guillermo Rawson yn Buenos Aires

Bu raid iddo fynd i Baris am flwyddyn ym 1881 i gael triniaeth am afiechyd, ond daeth dychwelodd i'r Ariannin. Er gwaetha'r driniaeth, gwaethygodd ei iechyd eto a bu'n rhaid iddo fynd i Baris unwaith eto ym 1885. Bu farw yno ym 1890.