Milk (ffilm)
Mae Milk (2008) yn ffilm fywgraffiadol Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Gus Van Sant. Adrodda'r ffilm hanes bywyd y gwleidydd a'r ymgyrchydd hawliau hoywon Americanaidd Harvey Milk. Milk oedd y dyn hoyw agored cyntaf i gael ei ethol i swydd gyhoeddus yng Nghaliffornia fel aelod o Fwrdd Arolygwyr San Francisco. Cafodd y ffilm ei rhyddhau mewn rhai mannau'n unig ar y 26ain o Dachwedd, 2008.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Gus Van Sant |
Cynhyrchydd | Dan Jinks Bruce Cohen |
Ysgrifennwr | Dustin Lance Black |
Serennu | Sean Penn Emile Hirsch Josh Brolin Diego Luna James Franco Lucas Grabeel |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Focus Features |
Dyddiad rhyddhau | 26 Tachwedd, 2008 |
Amser rhedeg | 128 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
Mae Milk wedi derbyn nifer o enwebiadau gan gynnwys enwebiad Golden Globe, tair enwebiad Gwobrau'r Gymdeithas Actorion Sgrîn a phedair BAFTA gan gynnwys un am y Ffilm Orau. Enwebwyd y ffilm am wyth o Wobrau'r Academi gan gynnwys y Ffilm Orau.
Cast
golygu- Sean Penn fel Harvey Milk
- Emile Hirsch fel Cleve Jones
- James Franco fel Scott Smith
- Josh Brolin fel Dan White
- Victor Garber fel Maer George Moscone
- Denis O'Hare fel y Gwleidydd John Briggs
- Diego Luna fel Jack Lira
- Ashlee Temple fel Dianne Feinstein
- Alison Pill fel Anne Kronenberg
- Lucas Grabeel fel Danny Nicoletta
- Stephen Spinella fel Rick Stokes
- Joseph Cross fel Dick Pabich
- Jeff Koons fel Art Agnos
Mae nifer o bobl a oedd yn adnabod Milk, gan gynnwys ei ysgrifennydd areithiau Frank M. Robinson, Allan Baird a Tom Ammiano yn portreadu eu hunain yn y ffilm. Mae Carol Ruth Silver, a gyd-weithiodd â Milk ar y Bwrdd o Arolygwyr hefyd yn chwarae rhan fechan yn y ffilm.
Dolenni Allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2008-09-27 yn y Library of Congress Web Archives
- Sgript y ffilm Archifwyd 2008-12-01 yn y Peiriant Wayback
- Erthygl CineSource am Gynhyrchiad y ffilm yn Ardal Castro o Ddinas San Francisco