Gwaith Ann Griffiths
Mae Gwaith Ann Griffiths yn llyfr yng Nghyfres y Fil[1] a olygwyd gan Syr Owen Morgan Edwards. Argraffwyd y llyfr ym 1905 gan R E Jones a'i Frodyr, Conwy ac fe gyhoeddwyd gan Llyfrau Ab Owen, Llanuwchllyn.
Llun wynebddalen | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Owen Morgan Edwards |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1905 |
Mae copi o'r llyfr ar Wicidestun
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cefndir
golyguMae'r gyfrol yn un cyfansawdd sy'n cynnwys testunau o waith pedwar o gyfeillion a oedd yn gyd fynychu seiat y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhontrobert, Sir Drefaldwyn ar droad y 18/19 ganrif:
- Thomas Griffiths, Meifod
Cyhoeddwyd y gyfrol i nodi canmlwyddiant marwolaeth Ann Griffiths.[5]
Gwaith Ann Griffiths
golyguMae adran Ann Griffiths yn cynnwys rhagymadrodd gan O M Edwards, sy'n rhoi cipolwg o gefndir yr emynyddes a rhagolwg o gynnwys yr adran. Mae y rhan fwyaf o'r llyfr wedi ei gopïo o lawysgrifau a ysgrifennwyd gan John Hughes. Mae'n cynnwys saith o lythyrau, chwech wedi eu cyfeirio at John Hughes ac un at Elizabeth Evans, Bwlch Aeddon. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys tua 80 o emynau Ann Griffiths.
Mae'r llythyrau a'r emynau o lawysgrifau John Hughes wedi eu trawsysgrifio gan y golygydd yn union fel y cawsant eu hysgrifennu heb gywiro sillafiad, orgraff na thafodiaith. Gan hynny mae nifer ohonynt ychydig yn wahanol i'r rai a thwtiwyd ar gyfer eu cyhoeddi mewn cofiannau a llyfrau emynau. Er enghraifft:
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd | ||
---|---|---|
Gwaith Ann Griffiths
|
........... | Caneuon Ffydd
|
GWELAI yn sefyll rhwng y myrtwydd |
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd |
Gwaith Thomas Griffiths
golyguGŵr a gweddw Ann Griffiths oedd Thomas Griffiths (1776—1808). Fel ei wraig roedd Thomas hefyd yn emynydd. Mae'r llyfr yn cynnwys pedwar enghraifft o'i ganu mawl.
Gwaith John Davies
golyguDim ond dau ddarn sydd yn adran Gwaith John Davies. "Myfyrdodau Ioan ap Dewi", cerdd hir yn ymateb i drychineb ym Mheriw pan laddwyd tua 100, 000 o bobl pan ffrwydrodd llosgfynydd ym 1798. Mae'r gerdd yn nodi pa mor frau ydy bywyd a sut bod trychinebau naturiol, rhyfeloedd a haint yn lladd yn ddirybudd a'r pwysigrwydd o ganfod gras Duw rhag ofn i ni gael ein dal mewn trychineb tebyg. Llythyr at ei gyfeillion ym Mhontrobert yw'r ail ddarn o waith John Davies. Llythyr a danfonwyd o Portsmouth wrth iddo baratoi i hwylio i Tahiti i wasanaethu fel cenhadwr.
Gwaith John Hughes
golyguMae tipyn o bopeth yn adran John Hughes. Cywyddau, englynion, emynau, rhestr o'i lyfrau, cofnodion cyfarfodydd crefyddol, sylwadau a myfyrdodau am bynciau crefyddol ac erthyglau ar gyfer y wasg Gymraeg.
Pan fu O. M . Edwards yn copïo'r llawysgrifau ar gyfer y llyfrynnau yng nghyfrol Gwaith Ann Griffiths roedd y llawysgrifau yng ngofal y Parch Edward Griffiths, Pontrobert, bellach maent yn y Llyfrgell Genedlaethol.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "COLOFN Y PLANT - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1916-11-23. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ "GRIFFITHS, ANN (1776 - 1805), emynyddes | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ "DAVIES, JOHN (1772 - 1855), cenhadwr ac athro ysgol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ "HUGHES, JOHN (1775 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, ac emynydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ "CYFARFODYDD YN LLANFYLLIN - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1905-08-23. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ Mynegai Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau John Hughes, Pontrobert