Gwaith Haearn Blaenafon
Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn hen safle diwydiannol sydd bellach yn amgueddfa ym Mlaenafon, Gwent. Roedd y gwaith haearn yn hanfodol bwysig yn natblygiad bydeang y gallu i ddefnyddio mwynau haearn gyda chynwys sylffwr uchel a oedd yn rhad, ac o ansawdd isel. Ar y safle bu Sidney Gilchrist Thomas a'i gefnder Percy Gilchrist yn cynnal arbrofion a arweiniodd at "y broses dur sylfaenol" neu broses "Gilchrist-Thomas".
Math | gwaith haearn, amgueddfa |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Blaenafon |
Sir | Blaenafon |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 355.1 metr |
Cyfesurynnau | 51.776983°N 3.089177°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM200 |
Mae'r gwaith haearn yn sefyll ar gyrion Blaenafon, ym mwrdeistref Torfaen, o fewn Tirlun Diwydiannol Blaenafon. Mae'n Safle Treftadaeth y Byd.
Mae'r safle o dan ofal Cadw, asiantaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu'r amgylchedd hanesyddol.
Hanes y gwaith
golyguCyfnod cynnar
golyguBu'r tir lle fu'r gwaith Haearn yn sefyll ar un adeg yn eiddo i Arglwydd y Fenni. Roedd yn cael ei osod a ar brydles ym 1787 i dri gŵr busnes o ganolbarth Lloegr, Thomas Hill, ei frawd-yng-nghyfraith, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt.[1] Cychwynnodd y tri i adeiladu'r gwaith haearn ar unwaith. Roedd y safle yn cynnwys nifer o fythynnod "moethus". Gwaith Haearn Blaenafon oedd y cyntaf i gael ei gynllunio fel safle aml-ffwrnais o'r cychwyn cyntaf,[2] roedd yno tair ffwrnais, odynau calch, bythynnod, a siop cwmni.
Ymwelodd yr archddiacon Coxe â Blaenafon yn ystod 1798-99 gan ganu clodydd y dref fechan fel sefydliad ysblennydd oedd ar gynyddu, a oedd yn cael ei hamgylchynu â phentyrrau o fwyn, glo a chalchfaen.[3] Y rheswm am dwf Blaenafon, o gymuned wledig i gymuned ddiwydiannol, oedd y cyfoeth o ddyddodion mwynau a geir yn yr ardal gyfagos. Roedd y dyddodion yn brigo trwy arwyneb y tir gan wneud ei echdynnu yn broses gymharol rad.
Datblygiad
golyguRoedd y gwaith haearn cyfagos ym Mhont-y-pŵl wedi dibynnu ar siarcol a dŵr. Ond roedd Natur y gwaith a gyflwynwyd i Flaenafon yn wahanol. Bu'r gwahaniaethau yn cynnwys defnyddio technoleg glo a grym ager, nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar yr adeg honno yn y cymoedd dwyreiniol.[4] Roedd angen gweithlu medrus a pharhaol i gynal y gwaith, nad oedd yn bodoli yn yr ardal. Daeth y gweithlu newydd yn bennaf o orllewin Cymru, Swydd Stafford, Swydd Gaerloyw, Swydd Henffordd, Gwlad yr Haf a'r Iwerddon. Daeth dynion di-grefft i'r ardal hefyd ar gyfer yr addewid am waith. daeth y dynion yn aml gyda'u teuluoedd. Bu i boblogaeth yr ardal ehangu o ychydig dros 1,000 ym 1800[5] i 5115 ym 1840, gyda 61% yn siarad Cymraeg a'r gweddill yn Saesneg.[6]
Erbyn 1800 roedd gwaith Haearn Blaenafon wedi cyfrannu'n fawr i wneud deheudir Cymru'r rhanbarth cynhyrchu haearn blaenaf yn y byd. Roedd cynhyrchu ym Mlaenafon yn ail yn unig i waith haearn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, y cynhyrchydd haearn mwyaf yng Nghymru. Cafodd dwy ffwrnais newydd eu hychwanegu yn ystod y degawd nesaf ac yn 1804 adeiladwyd gefail yn Cwmafon. Erbyn 1833 roedd y cwmni yn berchen ar 430 o dai ac yn cyflogi 1000 o weithwyr. Ond yn dioddef o economi ffyniant a methiant oedd yn cyd-fynd a chynhyrchu haearn. Roedd hyn yn cydfynd a thoriadau cyflog, streiciau ac yn ymddangosiad y "Teirw Scotch" (grwp oedd yn dial ar weithwyr nad oeddynt yn cefnogi gweithredoedd diwydiannol.
Cwmni Haearn a Glo Blaenafon
golyguYm 1836, cafodd y gwaith ei brynu gan Gwmni Haearn a Glo Blaenafon, yn cael ei ariannu gan ŵr o Lundain, Robert Kennard. Bu'r cwmni newydd dan arweiniad rheolwr gyfarwyddwr newydd James Ashwell. Bu buddsoddiad enfawr yn y gwaith, gan gynnwys y gwaith o adeiladu tŵr cydbwyso trawiadol. Roedd y tŵr yn defnyddio lifft adleoli dŵr i gludo haearn crai o'r safle i Gamlas Brycheiniog a'r Fenni, a oedd yn codi llai na Chamlad Sir Fynwy i gludo nwyddau i Gasnewydd. Er gwaethaf buddsoddiad o £138,000 yn y gwaith prin fu'r arwyddion o wneud elw, a bu'n rhaid i Ashwell ymddiswyddo ym 1840.[7] Yn y blynyddoedd canlynol cafodd cledrau haearn a gynhyrchwyd ym Mlaenafon eu hallforio ar draws y byd. Cawsant eu hallforio i'r India, Rwsia a Brasil. Cawsant eu defnyddio ar gyfer prosiectau lleol hefyd megis y gwaith o adeiladu Traphont Crymlyn.
Wedi i Ashwell ymddiswyddo, penodwyd dyn o'r enw Mr Scrivener yn rheolwr. O dan ei reolaeth bu i gynhyrchu cynyddu am gyfnod byr. Ym 1845 cyrhaeddodd gwerthiant uchafbwynt o 35,549 tunnell o'r hyn llwyddwyd i werthu 20,732 tunnell. Roedd hyn yn gynnydd o 5,000 tunnell ar werthiant y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag roedd hylifedd y busnes yn anwadal. Erbyn 1847 roedd gwerthiant wedi gostwng i 18,981 tunnell.[8] Bu'r gwaith yn parhau i ddioddef. Cafodd llai o haearn crai ei gynhyrchu ym 1849, yn rhannol gan fod y ffwrneisi wedi torri lawr am gyfnod o dri mis. Fodd bynnag, bur rheolwyr yn hawlio bod y gostyngiad yn ganlyniad i'r gweithwyr yn gwrthod toriad cyflogau, a oedd yn angenrheidiol oherwydd cyflwr dirwasgedig y diwydiant haearn .[9]
Cwmni Haearn A Dur Blaenafon
golyguCafodd y cwmni ei ail-lansio ym 1870 fel Cwmni Haearn A Dur Blaenafon ac roedd yn un o ddim ond chwech gwaith haearn yn ne Cymru i lwyddo i wneud y newid o gynhyrchu haearn i gynhyrchu dur. Erbyn 1878 y cwmni yn cyflogi 5,000 o bobl ond roedd wedi gorgyrraedd yn ariannol ac yn methu ymysg cystadleuaeth ffyrnig. Gyda digofaint ariannol ar y gorwel cafodd y cwmni rhywfaint o ryddhad diolch i ddarganfyddiadau Sidney Gilchrist Thomas a Percy Carlyle Gilchrist o fodd i ddefnyddio mwyn haearn ffosfforig a oedd wedi bod yn aneconomaidd cynt. Cafodd eu harbrofion eu cynnal ym Mlaenafon rhwng 1877 ac 1878.[10] Bu'r rhyddhad yn fyr hoedlog gan ei fod yn golygu bod yr Almaen a Gogledd America bellach yn gallu defnyddio eu mwynau ffosfforig eu hunnain, a arweiniodd i gyflymu dirywiad gwaith Haearn Blaenafon.
Diwedd y gwaith
golyguYm 1880 agorodd Cwmni Blaenafon y Pwll Mawr [11] gan symud i ffwrdd oddi wrth gynhyrchu haearn. Yn 1904 cafodd y gwaith haearn ei gau. Ailgychwyn y fenter am gyfnod byr ym 1924, ond roedd yn anghynaiadwy. Roedd gefeiliau'r safle yn dal i gael eu defnyddio i gynorthwyo'r gwaith o gynhyrchu sieliau dur yn ystod y ddau ryfel byd. Wedi'r Ail Ryfel byd cawsant eu defnyddio fel iard storio gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol.
Gwarchodaeth
golyguTua diwedd y 1950au dechreuodd archaeoleg ddiwydiannol dod i'r amlwg fel disgyblaeth, a thrwy hynny cafodd safle Gwaith Haearn Blaenafon ei arbed rhag tynged cymaint o safleoedd diwydiannol eraill o'r 18 a'r 19 ganrif. Ym 1974 cychwynwyd ar waith cadwraeth ar y safle. Yn fuan wedyn rhoddwyd gwarchodaeth statudol i o nifer safleoedd diwydiannol yng nghylch Blaenafon, gan gynnwys y gwaith Haearn.
Yn 2000 gwnaed Blaenafon a'r ardal, gan gynnwys y Gwaith Haearn, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO o dan enw "Tirlun Diwydiannol Blaenafon".[12] Mae yn awr o dan ofal Cadw.
Yn 2001, cafodd nifer o strwythurau'r gwaith eu hadfer.[13]
Mae ffwrneisi chwyth, y tŷ bwrw, y ffowndri a'r tŵr cydbwyso wedi eu cofrestru yn adeiladau rhestredig gradd 1.[14]
Mewn diwylliant poblogaidd
golyguYm 1959 gosododd y nofelydd Alexander Cordell ei waith mwyaf enwog, Rape of the Fair Country yn y gwaith Haearn a'r ardal gyfagos yng nghyfnod anterth y chwyldro diwydiannol.
Yn 2007 a 2008 defnyddiwyd bythynod y gweithwyr haearn yn Stack Square fel lleoliad y cyfresi teledu reality Coal House a Coal House at War gan BBC Cymru Wales
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Evans, J. A. H. (Spring 2000). Big Pit, Blaenavon-A New Chronology?. Gwent Local History Council. p. 4. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1337678/llgc-id:1340124/llgc-id:1340193/getText. Adalwyd 14 June 2016.
- ↑ McCrum, Kirstie (7 September 2013). "Going Underground; Big Pit: National Coal Museum Is Celebrating Its 30th Anniversary as a Tourist Attraction and Museum". Western Mail. Cyrchwyd 14 June 2016 – drwy Questia.
- ↑ Coxe, W. (1801) An Historical Tour of Monmouthshire.
- ↑ Atkinson, M., and Baber, C., (1987) The Growth and Decline of the South Wales Iron Industry: 1760–1880, tud36-45
- ↑ Coxe, W., (1801) An Historical Tour in Monmouthshire, Part 2, tud.228.
- ↑ Reports to the Commissioners on the Employment of Children (1841) tud.610.
- ↑ Evans, J. A. H. (Spring 2000). Big Pit, Blaenavon-A New Chronology?. Gwent Local History Council. p. 7. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1337678/llgc-id:1340124/llgc-id:1340193/getText. Adalwyd 14 June 2016.
- ↑ Lewis, S.A. Blaenavon Iron Works 1837–1880, Gwent County Record Office, MISC.
- ↑ Minutes, Blaenavon Iron and Coal Company, 27 April 1849
- ↑ History of the British Steel Industry Archifwyd 2016-08-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 14 Awst 2018
- ↑ Evans, J. A. H. (Spring 2000). Big Pit, Blaenavon-A New Chronology?. Gwent Local History Council. p. 11. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1337678/llgc-id:1340124/llgc-id:1340193/getText. Adalwyd 14 June 2016.
- ↑ "Blaenavon Industrial Landscape". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
- ↑ "Heritage Landmark to Be Repaired; BLAENAVON: Ironworks Tower Removed for First Time in More Than 160 Years". Western Mail Nodyn:Subscription required. November 23, 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-08. Cyrchwyd September 5, 2016.
- ↑ Listed Buildings in Blaenavon, Torfaen, Wales, britishlistedbuildings.co.uk.
Darllen pellach
golygu- Wakelin, Peter (2006). Blaenavon Ironworks. Cadw. ISBN 1-85760-123-8.
Dolenni allanol
golygu- Safle Treftadaeth y byd
- Manylion ar wefan CADW Archifwyd 2015-10-05 yn y Peiriant Wayback
- Manylion ar wefan y BBC Archifwyd 2010-09-22 yn y Peiriant Wayback