Gwaith Powdwr
Gwarchodfa natur gerllaw pentref Penrhyndeudraeth, Gwynedd yw Gwaith Powdwr. Mae'n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Math | gwarchodfa natur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penrhyndeudraeth |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Dwyryd |
Cyfesurynnau | 52.93°N 4.05°W |
Perchnogaeth | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru |
Roedd y safle, rhwng Penrhyndeudraeth a Phont Briwet dros Afon Dwyryd, yn wreiddiol yn safle gwaith ffrwydron Cook's Explosives. Wedi i'r gwaith gael ei gau, datblygwyd y safle fel gwarchodfa natur, 81 acer o arwynebedd. Mae'r adar sy'n nythu yno yn cynnwys y Troellwr Mawr, y Dylluan Wen a'r Gwybedog Brith.
Dolenni allanol
golygu- Gwaith Powdwr, o safle we yr Ymddiriedolaeth Archifwyd 2007-08-30 yn y Peiriant Wayback