Gwybedog brith

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Gwybedog Brith)
Gwybedog brith
Ficedula hypoleuca

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Ficedula[*]
Rhywogaeth: Ficedula hypoleuca
Enw deuenwol
Ficedula hypoleuca
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwybedog brith (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwybedogion brithion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Ficedula hypoleuca; yr enw Saesneg arno yw Pied flycatcher. Mae'n perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn F. hypoleuca, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r Gwybedog Brith yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara. Ceir pedwar rhywogaeth o Wybedogion Ficedula yn y rhan yma o'r byd, ac mewn rhai gwledydd gall fod angen gofal i wahaniaethu rhyngddynt. Mae'r aderyn yn 12–13 cm. o hyd, ac mae'r ceiliog yn aderyn du a gwyn tarawiadol; du ar y cefn, gwyn ar y bol a chyda darn gwyn amlwg ar yr adenydd, tra bod gan yr iâr frown golau yn lle du ar y cefn.

Adeiledir y nyth mewn coedydd, ac mae'n arbennig o hoff o goedydd derw, a choedydd lle nad oes llawer o dyfiant islaw'r coed. Adeiledir y nyth mewn tyllau yn y coed neu mewn blychau nythu lle darperir y rhain.

Ystyrir y Gwybedog Brith yn un o adar nodweddiadol Cymru, yn enwedig yn y coedydd derw sy'n tyfu ar y llethrau.

Teulu golygu

Mae'r gwybedog brith yn perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Adeinfyr torwyn Sholicola major
 
Bronlas Luscinia svecica
 
Eos Luscinia megarhynchos
 
Eos fraith Luscinia luscinia
 
Robin Swinhoe Larvivora sibilans
 
Robin-grec torwyn Dessonornis humeralis
 
Robin-grec y Penrhyn Dessonornis caffer
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Gwybedog brith gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.