Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Ymddiriedolaeth Natur dros ogledd Cymru yw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (Saesneg: North Wales Wildlife Trust). Mae’n rheoli 36 o warchodfeydd natur yng ngogledd Cymru a hefyd yn gweithio â sefydliadau eraill a pherchnogion tir i warchod a chysylltu safleoedd bywyd gwyllt ledled yr ardal ac i ysbrydoli cymunedau lleol a phobl ifanc i ofalu am fywyd gwyllt. Mae ganddo dros 5,000 o aelodau, ac mae'r brif swyddfa ym Mangor.

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1953 Edit this on Wikidata
Gweithwyr27, 30, 40, 35, 37 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.northwaleswildlifetrust.org.uk Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd yr ymddiriodolaeth, fel Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru, ar 26 Hydref. Dros y blynyddoedd, mae nifer y gwarchodfeydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth wedi cynyddu’n gyson, gan orchuddio mwy na 750 o hectarau erbyn hyn, diolch i roddion ar ffurf tir a phrynu safleoedd drwy godi arian. Rydyn ni’n cyflogi mwy na 30 o aelodau o staff yn awr ac yn rheoli cyllideb sy’n fwy nag £1,500,000.[1]


Ceir nifer o ganghennau rhanbarthol, sy'n trefu sgryrsiau, teithiau a digwyddiadau i godi arian:

Gweinyddir 32 gwarchodfa natur gan yr ymddiriedolaeth, arwynebedd o 6.5 km² i gyd:

  • Abercorris
  • Aberduna
  • Big Pool Wood
  • Blaen-y-Weirglodd
  • Bryn Pydew
  • Caeau Pen y clip
  • Caeau Tan Y Bwlch
  • Cemlyn
  • Coed Cilygroeslwyd
  • Coed Crafnant
  • Coed Porthamel
  • Coed Trellyniau
  • Coed y Felin
  • Cors Bodgynydd
  • Cors Goch
  • Cors-y-Sarnau
  • Gogarth (lle mae siop gan yr ymddiriedolaeth ar y copa)
  • Gors Maen Llwyd
  • Gwaith Powdwr
  • Maes Hiraddug
  • Chwarel Marford
  • Mariandyrys
  • Morfa Bychan
  • Nantporth
  • Chwarel Pisgah
  • Porth Diana
  • Rhiwledyn
  • Aber Ogwen
  • Three Cornered Meadow
  • Traeth Glaslyn
  • Y Ddol Uchaf
  • Y Graig

Gweler hefyd golygu

Rhestr o warchodfeydd Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu