Gwarchodfa Natur Aberogwen
Mae Gwarchodfa Natur Aberogwen (Saesneg: The Spinnies) yn ardal pedwar hectar o forlyn arfordirol yn ymyl Castell Penrhyn, efo dwy guddfan, yn rhoi golygfeydd o'r morlyn a Thraeth Lafan.
Math | gwarchodfa natur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.227468°N 4.078521°W |
Hanes
golyguFfurfiwyd y forlyn ym 1922 pan gyweiriwyd Afon Ogwen. Rhan o stad Penrhyn ydy'r warchodfa, ond caiff ei chynnal gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ers 1983
Adar
golyguYmysg yr adar a welir yno mae: gwyach leiaf, gwyach fawr gopog, crëyr glas, crëyr bach, glas y dorlan, alarch, coeswerdd, hwyaden lygad aur, hwyaden ddanheddog fronrudd, pi fach, dryw benfflamgoch, coch y berllan, cap du, helygddryw, gïach, gŵydd, rhegen y dŵr, pioden y môr, pibydd y mawn, cornchwiglen, rhostog coch, gylfinir, titw tomos las a llinos werdd.
Cyfeiriadau
golyguDolen allanol
golygu- Gwarchodfa Natur Aberogwen Archifwyd 2013-11-05 yn y Peiriant Wayback ar wefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru
Oriel
golygu-
Glas y dorlan
-
Crehyrod bach
-
Crëyr bach
-
Crëyr glas a Glas y dorlan
-
Eleirch ar Afon Ogwen