Afon Ogwen
Afon yng ngogledd-orllewin Cymru yw Afon Ogwen (Afon Ogwan ar lafar yn lleol: gweler isod). Mae'r afon yn tarddu yn Llyn Ogwen a Llyn Idwal sydd yn bwydo Nant y Benglog sydd yna'n ffurfio Nant Ffrancon ac yn ei thro, Afon Ogwen sy'n cwrdd a'r môr yn Aberogwen ger Bangor.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 19 metr |
Cyfesurynnau | 53.2333°N 4.0833°W |
Hyd | 16 cilometr |
Geirdarddiad
golygu'Ogwen' yw'r ffurf safonol ar yr enw, ond 'Ogwan' a geir ar lafar (cf. Llais Ogwan, papur bro Dyffryn Ogwen). Cafwyd y ffurf safonol 'Ogwen' oherwydd tybiai geiriadurwyr fod 'Ogwan' yn ffurf dafodieithol yn unig, enghraifft o'r arfer ar lafar yng ngogledd Cymru o gael -an yn lle -en. Ond yn ddiweddarach profwyd nad yw hynny yn wir yn yr achos yma ac mai Ogwan yw'r ffurf wreiddiol.[1]
Cofnodir enw'r afon fel Oguanw (sef Ogfanw) mewn cerdd yn Llawysgrif Hendregadredd. Trodd Ogfanw yn *Ogfan (tybiedig) ac Ogwan. Yn ôl pob tebyg mae'r enw yn gyfansoddair o'r elfen ragflaenol Og + yr enw banw (porchell, mochyn ifanc). Mae union ystyr Og yn llai eglur, ond tybir naill ai ei fod yn gytras â'r enw Hen Wyddeleg o(a)c ac yn golygu 'ifanc' (cf. Tír na n-Óg) neu ei fod yn tarddu o'r elfen Indo-Ewropeaidd *oku ("buan, cyflym") a welir yn Gymraeg yn y terfyniad -og yn y gair 'diog', er enghraifft. Felly, yn ôl yr ieithegydd R. J. Thomas, gallai'r enw gwreiddiol Ogfanw olygu "banw neu borchell buan".[2]
Cwrs
golyguMae tarddiad Afon Ogwen yn Llyn Ogwen, gerllaw ffordd yr A5 yn Eryri. Ymysg y nentydd sy'n llifo i mewn i Lyn Ogwen o lethrau Carnedd Dafydd mae Nant Gwern y Gof, Afon Denau, ac Afon Lloer, sy'n tarddu o lyn Ffynnon Lloer yn uchel yn y Carneddau. Gan mai Afon Denau yw'r ffrwd fwyaf, mae modd ei ystyried fel tardd-nant Afon Ogwen.
Yn syth ar ôl gadael ochr orllewinnol Llyn Ogwen, mae Afon Ogwen yn creu Rhaeadr Ogwen wrth ddisgyn dros greigiau cyn cyrraedd tir mwy gwastad a llifo i lawr dyffryn Nant Ffrancon.
Mae'r afon yn llifo heibio tomennydd o sbwriel llechi o Chwarel y Penrhyn ac yna heibio Braichmelyn. Ychydig yn ddiweddarach mae Afon Caseg, sydd hefyd yn tarddu yn y Carneddau, yn llifo i mewn iddi. Mae'n llifo trwy bentref Bethesda lle daw Afon Ffrydlas i aberu ynddi - ac yna ymlaen tua'r gogledd-orllewin gan ddilyn hen drac rheilffordd sydd yn awr wedi ei droi yn Lôn Las Ogwen ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Wedi croesi'r A55 a llifo rhwng Llandygai a Thalybont, mae'r afon yn cyrraedd y môr yn Aberogwen (Aberogwan), ychydig i'r dwyrain o stad y Penrhyn ger Bangor, lle ceir gwarchodfa natur.
Llednentydd
golygu- I'r gorllewin
- Afon Bodesi
- Afon Lloer
- Afon Denau
- Afon Caseg
- Afon Ffrydlas
- Afon Llan (Llanllechid)
- I'r dwyrain
- Nant (neu Afon) Gwern y Gof
- Nant Bochlwyd
- Nant Cywion
- Nant Bual
- Nant Berfedd