Cornchwiglen

rhywogaeth o adar
Cornchwiglen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Charadridae
Genws: Vanellus
Rhywogaeth: V. vanellus
Enw deuenwol
Vanellus vanellus
(Linnaeus, 1758)
Vanellus vanellus

Mae'r Gornchwiglen (Vanellus vanellus) yn aelod o deulu'r rhydyddion. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop a gogledd Asia.

Mae'r Gornchwiglen yn aderyn mudol yn y rhannau lle ceir gaeafau oer ac yn symud i'r de cyn belled a gogledd Affrica a gogledd India. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n mudo.

Gellir adnabod y Gornchwiglen yn hawdd. Mae'n aderyn du a gwyn, ond gyda lliw gwyrdd ar y cefn, ac mae plu hir ar y pen. Mae rhwng 28 a 31 cm o hyd a 67–72 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu gellir clywed yr adar yn galw yn ddi-baid.

Mae'n nythu ar gaeau a lle bynnag y ceir tir agored gyda glaswellt heb fod yn rhy hir. gan ddodwy 3 neu 4 wy ar y llawr. Mae'r rhieni yn amddiffyn y nyth ac yn ddiweddarach y cywion rhag unrhyw aderyn neu anifail a allai fod yn berygl iddynt. Mewn llawer o wledydd, yn cynnwys Cymru, mae'r nifer o Gornchwiglod sy'n nythu wedi gostwng oherwydd fod dulliau ffermio dwys yn golygu fod llai o leoedd addas iddynt nythu. Yn y gaeaf mae niferoedd sylweddol o adar o wledydd eraill yn symud i mewn, ac weithiau gellir gweld heidiau o filoedd ar rannau mwdlyd o lan y môr neu ar gaeau. Eu prif fwyd yw pryfed o wahanol fathau.

Perthynas â phobl golygu

  • Hel wyau "griglod" ym Mon

Cofnod Olwen Evans (Môn) yn 2011:

Fy modryb (91 oed) yn dweud fel y byddai yn mynd i aros at ei Nhain i Benrallt, Paradwys a cherdded i Falltraeth i hel cocos. Finnau yn cofio mynd i aros ati hi i Aberffraw pan yn blentyn yn y 50au a chael wedi ei ffrio. Roedd yn arfer gan rai o'r Berffro fynd i hel wyau cornchwiglod i'w bwyta. Ychwanegodd fod “yr hogia yn mynd hyd y twyni hefo tunia a gneud tan a berwi'r wyau a'u bwyta. A hefyd - mynd a nhw i'w gwerthu i bobl fawr Rhosneigr”. Mam wedyn yn cofio mynd i aros hefo’i chwaer i Penyrorsedd yn agos i'r Berffro a Hughie (ei brawd yng nghyfraith) yn mynd i'r caeau i hel wyau cornchwiglod a Lisi yn eu ffrio. Mam yn dotio nad oedd y gwynwy yn troi yn wyn ond yn aros yn glir. Hynny yn gof plentyn gen i hefyd a methu dallt pam nad oedd y gwynwy yn wyn. Mam yn eu galw yn griglan neu griglod.[1]
Dyma farn milfeddygol Jaqueline Wilmington: "Mae “ovalbumin” yn achosi i wynnwy wyau ieir domestig droi’n wyn yn ystod eu coginio. Mae wyau rhai rhywogaethau’n cynnwys llai o “ovalbumin” a mwy o wahanol fathau eraill o albwmin ac felly nid ydynt yn ymateb i goginio yn yr un modd. Mae wyau pengwiniaid yn ymddwyn yn debyg [1].

'Criglan' (cniglan ar lafar i mi), Llanfaethlu, Ynys Môn. Byddai nhad yn hel wya cniglod yng nghaea Bodfardden Ddu, Llanfaethlu yn y 50au - rhai efo sbeciau brown arnynt os cofiaf yn iawn. Ym mhig ei gap y byddai fy nhad (o Niwbwrch)yn cario wyau cniglod. Mi fydda fo’n eu byta i de pnawn - 2/3 ar yr un pryd oherwydd eu bod mor fach. Ond gan nad wyf yn hoffi na byta wyau alla’i ddim tystio i’w blas" Menna Lloyd Williams[2]

Chwiglan, chwyglod, cniglod. Nhaid yn hel wya chwiglod, a’i cario ym mhig 'i gap. Byth ond yn cymryd ond un wy, a hynny os oedd yn nyth â thri wy. Gwawr lâs ar y gwynwy. Wedi ‘i berwi mewn salad. Blasus. John Pierce-Jones[2]

Clywais fod ciperiaid y stada mawr, Bodorgan, Plasnewydd ayb yn gorfod mynd i hela wya chwiglod a chymryd bob un i frecwast i'w meistri. JP-J[2]

Chwiglan - Niwbwrch, Mon - yn anffodus cofio mynd i hel wya chwiglod yn y Tywyn a balch o gael hyd iddynt ac wrth gwrs ei bwyta ar ôl mynd adra. Ddim yn meddwl am a chwiglan druan yn colli ei wya. Faswn I ddim yn gwneud y fath beth rwan. Dot Bailey[2]

  • Ymddygiad

Hanesyn TG Walker am ‘hyfdra’r‘ gornchwiglen:

”.....gallaf adrodd un stori am ddigwyddiad a fu ym mis Mai tua'r flwyddyn 1920 pan oeddwn yn dechrau llafurio cae i'w hau. Cae i haidd ydoedd, gydag amryw Gornchwiglod yn nythu arno a'r wyau, mae'n debyg, ar fin deori. Mi es i'r cae hefo gwedd ifanc wedi cael eu porthi'n dda, ac angen gofal hefo nhw.
Dechrau llyfnu yr oeddwn, ac yn croesi drwy ganol y cae pan ddaeth dwy neu dair o'r Cornchwiglod i hedfan uwchben y ceffylau. Yr oedd un ohonynt yn ddewrach na'r lleill, ac yn troelli a disgyn yn sydyn, gan chwyrnellu heibio pen un o'r ceffylau. Gwnâi hyn am ryw drofa neu ddwy bob tro yr a’n i'r cae, yn y bore ac ar ôl cinio. Ond yn ystod yr ail neu'r trydydd ddiwrnod fe ddaeth hon yn fwy hy, ac fe drawodd y gaseg yn ei chlust hefo'i hadain, a pheri dychryn i'r anifail. Yn ei braw, taflodd y gaseg ei phen i gyfeiriad ei phartneres, a tharawodd pennau'r naill a'r llall yn erbyn ei gilydd. Fe ddychrynodd y ddwy yn waeth fyth wedyn, a chreu helynt difrifol inni Yn wir, bu raid imi ollwng v wedd a mynd adref. Dychwelais i'r cae hefo ci a gwn i chwilio am y gnawes feiddgar. Buan y daeth y Cornchwiglod i erlid yn ol a'r un yr oeddwn yn chwilio amdani yn dod yn nes i'r ci na'r lleill. Gwaith hawdd felly oedd ei phigo allan a rhoi terfyn arni er mwyn cael llonydd i lafurio ac i hau y cae. Tra bu'r gaseg honno yn fy meddiant, yr oedd arni ofn Cornchwiglod, a dyna chi'r gwir."[3]

Llên Gwerin golygu

Yn ôl chwedl, roedd y gornchwiglen yn arfer nythu yn y coed fel adar eraill... a'r dylluan (twyll-Lleu, o chwedl Blodeuwedd) yn nythu ar y llawr. Un diwrnod perswadiwyd y gornchwiglen gan y dylluan i gyfnewid eu llefydd nythu, ac felly y bu. Ond yn fuan iawn fe welodd y gornchwiglen ei bod wedi gwneud camgymeriad mawr... ac ers hynny mae hi yn gweiddi ar y dylluan i newid nôl - 'NEWID, NEWID' yw ei chri.[4]

Cyfeiriad golygu

  1. Olwen Evans ym Mwletin Llên Natur rhyfyn 44
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Bwletin Llên Natur rhifyn 143
  3. Colofn TG Walker, Y Cymro, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 69
  4. Sion Roberts ym Mwletin Llên Natur rhif 26