Gwarchodfa Natur Genedlaethol Maes-y-Facrell

Lleolir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Maes-y-Facrell ar y Gogarth yn Llandudno, Sir Conwy. Cafodd y safle ei dynodi yn Warchodfa Natur Genedlaethol yn 2009. Pum hectar yw maint y safle.[1]

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Maes-y-Facrell
MathGwarchodfa Natur Genedlaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3287°N 3.8474°W Edit this on Wikidata
Map
Creigiau geirwon Maes-y-Facrell

Rhywogaethau

golygu

Mae nifer o blanhigion prin i'w cael ar laswelltiroedd calchog Maes-y-Facrell gan gynnwys rhywogaethau fel y rhwyddlwyn pigfain, meryw, cor-rosod lledlwyd (ynghyd â'r cor-rosyn cyffredin). Ceir gloÿnnod byw hefyd, gan gynnwys y glesyn serennog.[2]

Geirdarddiad

golygu

Nid oes cytundeb am darddiad yr enw 'Maes-y-Facrell'. Mae'n bosibl mai lle i bysgotwyr lleol sychu mecryll oedd y glaswelltir neu fod siap y cerrig calchfaen yn awgrymu siap mecryll. Posiblrwydd arall yw mai llygriad o'r enw lle 'Maes y Fachraeth' ydyw; mae'r gair 'mach/fach' yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd gyda'r ystyr "lle anghysbell."[2]

Cyfeiriadau

golygu