Gwarchodfa Natur Leol

Dynodiad yn y Deyrnas Unedig ar gyfer ardaloedd gwarchodedig

Mae Gwarchodfa Natur Leol (lluosog Gwarchodfeydd Natur Lleol; Saesneg: Local Nature Reserve, LNR) yn ddynodiad statudol ar gyfer rhai gwarchodfeydd natur ym Mhrydain Fawr. Sefydlodd Pwyllgor Arbennig Cadwraeth Bywyd Gwyllt (Wild Life Conservation Special Committee)[1] hwy a chynigiodd gyfres genedlaethol o ardaloedd gwarchodedig yn cynnwys gwarchodfeydd natur cenedlaethol, ardaloedd cadwraeth (a oedd yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig), parciau cenedlaethol, henebion daearegol, gwarchodfeydd natur lleol a safleoedd addysgol lleol.

Gwarchodfa Natur Leol
Enghraifft o'r canlynoldynodiad o ran cadwraeth, math o ddynodiad Edit this on Wikidata
Mathgwarchodfa natur, treftadaeth naturiol Edit this on Wikidata

Yn 2009, roedd o leiaf 73 Gwarchodfa Natur Leol yng Nghymru.[2] Yn Lloegr, ceir dros 1,280 o Warchodfeydd Natur Lleol, sef bron i 40,000 hectar, sy’n amrywio o bentiroedd arfordirol a choetiroedd hynafol i hen reilffyrdd a safleoedd tirlenwi.

 
Pont troed Aberlady lle sefydlwyd y Gwarchodfa Natur Leol gyntaf yn 1952

Cyfunodd Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 elfennau o nifer o’r categorïau hyn yn ei diffiniad o warchodfa natur (Adran 15). Gobaith y Pwyllgor Arbennig oedd gweld safleoedd yn cael eu gwarchod a oedd yn cynrychioli safleoedd o ddiddordeb gwyddonol lleol, y gellid eu defnyddio gan ysgolion ar gyfer addysgu maes ac arbrofi, a lle gallai pobl heb unrhyw ddiddordeb arbennig mewn byd natur "...gael pleser mawr rhag myfyrdod heddychlon natur."

Mae Gwarchodfa Natur Leol (wedi’i chyfalafu) yn ddynodiad statudol a wneir o dan Adran 21 – “Sefydlu gwarchodfeydd natur gan awdurdodau lleol” – o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 gan brif awdurdodau lleol (cynghorau dosbarth, bwrdeistref neu unedol) yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban.[3] Nid oes gan gynghorau plwyf a thref yn Lloegr unrhyw bŵer uniongyrchol i ddynodi gwarchodfeydd natur, ond gallant gael y pwerau i wneud hynny wedi’u dirprwyo iddynt gan eu prif awdurdod lleol gan ddefnyddio adran 101 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Sefydlwyd y Warchodfa Natur Leol gyntaf yn yr Alban yn 1952 yn Aberlady, pentref arfordirol yn Nwyrain Lothian, Yr Alban.[4]

Sefydlu gwarchodfeydd natur

golygu
 
Ceir gwarchodfeydd natur lleol mewn ardaloedd trefol megis GNL Howardian, Pen-y-an, Caerdydd

Awdurdodau lleol sy'n sefydlu a rheoli gwarchodfeydd natur lleol, yn dilyn ymgynghoriad â chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Er mwyn i safle gael ei dynodi'n Warchodfa Natur Leol rhaid bod ganddi nodweddion naturiol sydd o ddiddordeb arbennig i'r ardal leol ac mae'n rhaid i'r awdurdod naill ai fod â hawl gyfreithiol ar y tir neu gytundeb gyda'r perchennog i reoli'r tir fel gwarchodfa. Mae gwarchodfeydd natur lleol yn fuddiol nid yn unig er mwyn diogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt ond hefyd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth pobl o'u hamgylchedd. Maent yn lleoedd lle gall plant ddysgu am natur, ac maent wedi'u lleoli mewn neu gerllaw ardaloedd trefol yn aml. Gweler Deddf Cefn Gwlad 1949 am y rhesymau dros y dynodiad gwreiddiol. Mae dyfodiad y System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a'i defnydd gan adrannau'r llywodraeth a chwmnïau masnachol i ddefnyddio'r data fel hyn, yn gwella amddiffyniad y safleoedd hyn ac effeithlonrwydd y broses o wneud penderfyniadau. Dynodwyd y Gwarchodfeydd Natur Lleol dros nifer o flynyddoedd, o 1970 hyd heddiw, ac mae hyn yn parhau.[5]

Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol o bwysigrwydd lleol, ond nid o reidrwydd yn genedlaethol.[6] Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol bron yn ddieithriad yn eiddo i awdurdodau lleol (siroedd fel rheol yng Nghymru), sy'n aml yn trosglwyddo rheolaeth y warchodfa natur leol i Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Sirol.[6] Yn aml hefyd mae gan Warchodfeydd Natur Lleol fynediad a chyfleusterau da i'r cyhoedd. Gall gwarchodfa natur leol hefyd fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ond yn aml nid yw, neu gall fod ganddi ddynodiadau eraill (er na all gwarchodfa natur leol fod yn Warchodfa Natur Genedlaethol hefyd).[7] Ac eithrio lle mae'r safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, nid oes rheidrwydd cyfreithiol i reoli Gwarchodfa Natur Leol i unrhyw safon benodol, ond mae cytundebau rheoli yn bodoli'n aml.[6]

Gall Gwarchodfa Natur Leol gael ei diogelu rhag gweithrediadau niweidiol. Mae ganddi hefyd amddiffyniad penodol rhag datblygu arno ac o'i amgylch. Rhoddir y warchodaeth hon fel arfer drwy'r cynllun lleol (a gynhyrchir gan yr awdurdod cynllunio), ac yn aml caiff ei ategu gan is-ddeddfau lleol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw amddiffyniad cyfreithiol cenedlaethol yn benodol ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Lleol.[6]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Conservation of Nature in England and Wales, Command 7122, 1947
  2. "Local Nature Reserves in Wales". What They Know. 2009.
  3. Local Nature Reserves (England) at gov.uk. Retrieved 13 May 2022.
  4. Laurence Dudley Stamp (1969). Nature Conservation in Britain. Collins. t. 177. ISBN 9780002131520.
  5. "Gwarchodfeydd Natur Cymru". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 21 Hydref 2024.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 lnr at naturenet.net. Retrieved 6 May 2022.
  7. Section 21(1), National Parks and Access to the Countryside Act 1949
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.