Gwarchodfa natur Cors Leighton
Mae Gwarchodfa natur Cors Leighton (Saesneg: Leighton Moss) un o warchodfeydd natur y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, lleolir yn Swydd Gaerhirfryn yn Silverdale, ger Bae Morecambe.
Math | gwarchodfa natur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerhirfryn |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 2,000 acre |
Cyfesurynnau | 54.16°N 2.8°W, 54.168583°N 2.800294°W |
Rheolir gan | Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar |
Perchnogaeth | Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar |
Cyfanswm arwynebedd y warchdfa yw tua 2,000 o erwau ac mae'n cynnwys corslwyn, coed a glastir calchfaen, cors arfordirol a morlyn. Gwelir barfog, boda’r gors, telor yr hesg, bwn, titw’r gors, cnocell y cnau, coch y berllan, tylluan frech, titw cynffon-hir, dringwr bach, cnocell y coed, cambig, pioden y môr, gylfinir, coesgoch a phibydd y mawn. Mae niferau’r hwyaid, megis hwyaid llostfain a chwiwellod, yn codi’n sylweddol yn ystod y gaeaf. Gwelir ceirw cochion.[1][2]. Mae niferau mawr o ddrudwy yn ymddangos yn ystod yr hydref a gaeaf.[3]
Ers cymryd yr awenau, mae’r Gymdeithas wedi creu mwy o ddŵr agored ar y corstir, yn cael gwared o frwyn, a chliriwyd ffosydd i wellhau llif y dŵr. Sefydlwyd ardaloedd o ddŵr bas ar gyfer adar hirgoes, ac ynysoedd addas i nythu. Cyrhaeddodd dwrgwn yn 2006/7. Yn ogystal â‘r warchodfa, mae’r Gymdeithas yn rheoli safleoedd cyfagos eraill, sef ‘Inner Salt Marsh’, ‘Outer Salt Marsh’, Cae Barrow Scout, Craig Warton, Cors Silverdale a Rhandir Plas Challan. Mae Cors Silverdale a Chae Barrow Scout yn ardaloedd o frwyn ychwanegol i Gors Leighton. Mae’r 2 forfa yn cael eu dylanwadu gan lanwau Bae Morecambe a gan Afon Kent i’r gogledd ac Afon Keer i’r dde. Canaleiddiwyd Afon Keer yn y 1950au, yn lleihau llifogydd ac yn creu tir mwy sych o'i chwmpas. Mae Craig Warton a Rhandir Plas Challan yn galchfaen ac yn cynnal blodau a phili-palod prin.
Mae Cors Leighton yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)[4] ac yn cynnwys y corslwyn mwyaf yng ngogledd Lloegr. Mae’n rhan o Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Arnside/Silverdale.[5] Darlledwyd y rhaglen Autumnwatch o'r warchodfa yn 2014.[6]