Dringwr bach
Dringwr bach Certhia familiaris
| |||
---|---|---|---|
Statws cadwraeth | |||
Dosbarthiad gwyddonol | |||
Teyrnas: | Animalia | ||
Ffylwm: | Chordata | ||
Dosbarth: | |||
Urdd: | Passeriformes | ||
Teulu: | Certhiidae | ||
Genws: | Certhia[*] | ||
Rhywogaeth: | Certhia familiaris | ||
Enw deuenwol | |||
Certhia familiaris | |||
![]() | |||
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Dringwr bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: dringwyr bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Certhia familiaris; yr enw Saesneg arno yw Common treecreeper. Mae'n perthyn i deulu'r Dringwyr coed (Lladin: Certhiidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. familiaris, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia, ac mae naw is-rywogaeth i gyd.
Nid yw'r Dringwr Bach yn aderyn mudol. Mae'n aderyn cyffredin mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a thir agored. Ei brif fwyd yw pryfed, a'i ddull arferol o fwydo yw hedfan i waelod coeden ac yna ei dringo, cyn hedfan i waelod coeden arall i ail-ddechrau. Mae'n aderyn gweddol fychan, 12.5 cm o hyd.
Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, er nad yw'n adnabyddus iawn i'r mwyafrif, ac mae'n ymddangos fod ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Is-rywogaethauGolygu
- C. f. familiaris - Llychlyn a dwyrain Ewrop hyd orllewin Siberia
- C. f. britannica - Prydain ac Iwerddon
- C. f. macrodactyla - gorllewin Ewrop
- C. f. corsa - Corsica
- C. f. daurica - dwyrain Siberia a gogledd Mongolia
- C. f. orientalis - dyffryn afon Amur, gogledd-ddwyrain Tsieina a Chorea
- C. f. japonica - Japan
- C. f. persica - y Crimea a Twrci hyd at ogledd Iran
- C. f. tianchanica - gogledd-orllewin Tsieina
- C. f. hodgsoni - gorllewin yr Himalaya, Kashmir
- C. f. mandellii - dwyrain yr Himalaya
- C. f. khamensis - Sichuan
TeuluGolygu
Mae'r dringwr bach yn perthyn i deulu'r Dringwyr coed (Lladin: Certhiidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gwybed-ddaliwr Califfornia | Polioptila californica | |
Gwybed-ddaliwr Ciwba | Polioptila lembeyei | |
Gwybed-ddaliwr cynffonddu | Polioptila melanura | |
Gwybed-ddaliwr Guyana | Polioptila guianensis | |
Gwybed-ddaliwr gyddflwyd | Polioptila schistaceigula | |
Gwybed-ddaliwr llwyd | Polioptila plumbea | |
Gwybed-ddaliwr llwydlas | Polioptila caerulea | |
Gwybed-ddaliwr llygadfoel | Polioptila albiloris | |
Gwybed-ddaliwr mygydog | Polioptila dumicola | |
Gwybed-ddaliwr penddu | Polioptila nigriceps | |
Gwybed-ddaliwr torwyn | Polioptila lactea | |
Gwybed-ddryw bochgoch | Microbates cinereiventris | |
Gwybed-ddryw torchog | Microbates collaris |
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.