Gwartheg Duon Cymreig
Brîd o wartheg Cymreig yw Gwartheg Duon Cymreig a gedwir ar gyfer cynhyrchu llaeth a chig yn bennaf. Fel yr awgryma'r enw, datblygwyd hwy yng Nghymru ac maent bron bob amser yn ddu, er bod ychydig o rai cochion ar gael hefyd. Fel rheol mae ganddynt gyrn, ond mae rhai sy'n naturiol heb gyrn yn ogystal.
Un o nodweddion Gwartheg Duon Cymreig yw eu bod yn medru byw ar yr ucheldiroedd ac ar borfa gymharol wael, lle na all y mwyafrif o fridiau o wartheg fyw. Cyfeirid atynt ar un adeg fel "Yr Aur Du".
Hwsmoniaeth
golyguRhwymo
golyguMae’r ‘rhwymo’r buchod’ yn ddifyr. Cyfeirio y mae Ellen Jones at roi’r gwartheg i mewn yn y beudy (wedi eu rhwymo â chadwyn) dros y gaeaf. Byddai hyn yn digwydd o gwmpas Glangaea (ddechrau mis Tachwedd). Tybed a oedd y storm wedi dylanwadu arni i ddod â’r rhwymo ymlaen rhyw chydig, i arbed yr anifeiliaid rhag rhyferthwy’r ddrycin? E’lla byddai edrych ar ddyddiad y rhwymo mewn blynyddoedd eraill yn rhoi’r ateb...?[2]
A dyma wneud:
Difyr bod tywydd yn cael ei grybwyll yn y ddau achos ym Modorgan o fewn diwrnod o'i gilydd mewn gwahanol flynyddoedd, a dim son am y tywydd yn y cofnod o Rhiw sy'n dyddio o hwyrach yn y flwyddyn. Mae hyn yn awgrymu mai Glangaea yw'r dyddiad rhwymo gwartheg onibai bod tywydd drwg yn dod â'r dyddiad ymlaen.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig Archifwyd 2007-06-30 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiadur Ellen Jones, Ty Crwn, Bodorgan, Môn[www.llennatur.cymru]
- ↑ Twm Elias mewn llythyr
- ↑ Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw.com
- ↑ Dyddiadur Ellen Jones, Ty Crwn, Bodorgan, Môn yn www.llennatur.cymru