Asterix
Cyfres o stribedi comig ydy Anturiaethau Asterix (Ffrangeg: Astérix neu Astérix le Gaulois), a grewyd gan René Goscinny ac Albert Uderzo. Ymddangosodd y gyfres yn y cylchgrawn Ffrengig Pilote am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959. Mae 39 llyfr comig wedi cael eu cyhoeddi yn y gyfres hyd 2021.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o lyfrau comic |
---|---|
Awdur | René Goscinny, Albert Uderzo |
Cyhoeddwr | Dargaud |
Gwlad | Ffrainc |
Dechrau/Sefydlu | 1959 |
Dechreuwyd | 29 Hydref 1959 |
Genre | comics hanes amgen |
Cymeriadau | Asterix, Obelix, Dogmatix, Gwyddoniadix, Pwyllpendefix, Perganiedix, Geriatrix, Fulliautomatix, Panacea, Unhygienix, Anticlimax |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Lleoliad y gwaith | Gâl |
Gwefan | http://www.asterix.com, https://www.asterix.com/en/, https://www.asterix.com/de/, https://www.asterix.com/es/, https://www.asterix.com/nl/, https://www.asterix.com/pt-pt/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd: Asterix (gwahaniaethu)
Mae'r cyfres yn dilyn hanesion pentref yng Ngâl hynafol, tra eu bod yn gwerthsefyll meddiannu'r wlad gan y Rhufeiniaid. Maent yn gwneud hyn drwy ddefnyddio cymysgedd hudol, sy'n cael ei fragu gan eu derwydd, sy'n rhoi cryfder goruwchddynol i'r un sy'n ei yfed. Asterix yw'r prif gymeriad, ynghyd a'i ffrind Obelix; maent yn cael amryw o anturiaethau sy'n eu harwain i deithio o amgylch nifer o wledydd y byd, ond mae sawl llyfr wedi eu seilio o amgylch eu pentref.
Asterix yw un o'r cyfresi comig Ffrengig-Belgaidd mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae wedi cael ei gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, ac mae'n fwyaf poblogaidd yng ngwledydd Ewrop. Mae Asterix yn llai adnabyddus yn yr Unol Daleithiau a Japan.
O ganlyniad i lwyddiant y gyfres mae nifer o'r llyfrau wedi'u haddasu'n ffilmiau: wyth wedi eu hanimeiddio, a thri gydag actorion byw. Mae hefyd nifer o gemau yn seiliedig ar y cymeriadau, ac mae'r parc thema Ffrengig, Parc Astérix, wedi ei seilio ar y gyfres.
Hanes
golyguCyn creu cyfres Asterix, roedd Goscinny ac Uderzo eisoes wedi cael llwyddiant gyda'u cyfres Oumpah-pah, a gafodd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Tintin.
Cyhoeddwyd Astérix yn wreiddiol ar ffurf cyfres Pilote, cyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959.[1] Yn 1961, cysodwyd fel llyfr am y tro cyntaf: Astérix le Gaulois. O hynny ymlaen, cyhoeddwyd llyfr yn flynyddol fel rheol.[2]
Pan fu farw Goscinny, cariodd Uderzo y gyfres ymlaen ar ei ben ei hun, ond yn llai rheolaidd. Nid yw straeon Uderzo wedi cael beirniadaeth cystal a'r rhai a gyd-ysgrifennodd gyda Goscinny. Ymddeolodd Uderzo yn 2009, a bu farw yn 2020. Yn 2013, cymerodd tim newydd yr awenau, sef Jean-Yves Ferri (yn ysgrifennu'r testun) a Didier Conrad (yn darlunio'r arlunwaith).
Rhestr teitlau
golyguAllwedd: Mewn print Allan o brint
Rhif | Teitl gwreiddiol | Testun ac arlunwaith | Dyddiad cyhoeddi |
Teitl Cymraeg | Dyddiad cyhoeddi yn Gymraeg |
---|---|---|---|---|---|
1 | Astérix le Gaulois | Goscinny ac Uderzo | 1961 | Asterix y Galiad | 1976 (Dref Wen) |
2012 (Dalen) | |||||
2 | La Serpe d'or | Goscinny ac Uderzo | 1962 | Asterix a'r Cryman Aur | 2014 (Dalen) |
3 | Astérix et les Goths | Goscinny ac Uderzo | 1963 | Asterix a Helynt yr Archdderwydd | 2021 (Dalen) |
4 | Astérix gladiateur | Goscinny ac Uderzo | 1964 | Asterix y Gladiator | 1977 (Dref Wen) |
2015 (Dalen) | |||||
5 | Le Tour de Gaule d'Astérix | Goscinny ac Uderzo | 1965 | –– | –– |
6 | Astérix et Cléopâtre | Goscinny ac Uderzo | 1965 | Asterix a Cleopatra | 1976 (Dref Wen) |
2018 (Dalen) | |||||
7 | Le Combat des chefs | Goscinny ac Uderzo | 1966 | Asterix a'r Ornest Fawr | 1980 (Dref Wen) |
Asterix a'r Cur Pen | 2018 (Dalen) | ||||
8 | Astérix chez les Bretons | Goscinny ac Uderzo | 1966 | Asterix ym Mhrydain | 1976 (Dref Wen) |
Asterix a Gorchest Prydain | 2012 (Dalen) | ||||
9 | Astérix et les Normands | Goscinny ac Uderzo | 1967 | –– | –– |
10 | Astérix légionnaire | Goscinny ac Uderzo | 1967 | Asterix ym Myddin Cesar | 1978 (Dref Wen) |
Asterix, Milwr Cesar | 2018 (Dalen) | ||||
11 | Le Bouclier arverne | Goscinny ac Uderzo | 1968 | Asterix a Tharian y Llyw Olaf | 2019 (Dalen) |
12 | Astérix aux Jeux Olympiques | Goscinny ac Uderzo | 1968 | Asterix yn y Gemau Olympaidd | 1979 (Dref Wen) |
2012 (Dalen) | |||||
13 | Astérix et le chaudron | Goscinny ac Uderzo | 1969 | Asterix a'r Pair Pres | 2013 (Dalen) |
14 | Astérix en Hispanie | Goscinny ac Uderzo | 1969 | –– | –– |
15 | La Zizanie | Goscinny ac Uderzo | 1970 | Asterix a'r Snichyn | 2013 (Dalen) |
16 | Astérix chez les Helvètes | Goscinny ac Uderzo | 1970 | –– | –– |
17 | Le Domaine des dieux | Goscinny ac Uderzo | 1971 | Asterix – Rhandir y Duwiau | 2012 (Dalen) |
18 | Les Lauriers de César | Goscinny ac Uderzo | 1972 | Asterix a Choron Cesar | 2012 (Dalen) |
19 | Le Devin | Goscinny ac Uderzo | 1972 | Asterix a'r Argoel Fawr | 2015 (Dalen) |
20 | Astérix en Corse | Goscinny ac Uderzo | 1973 | –– | –– |
21 | Le Cadeau de César | Goscinny ac Uderzo | 1974 | Asterix ac Anrheg Cesar | 1981 (Dref Wen) |
22 | La Grande Traversée | Goscinny ac Uderzo | 1975 | –– | –– |
23 | Obélix et compagnie | Goscinny ac Uderzo | 1976 | –– | –– |
24 | Astérix chez les Belges | Goscinny ac Uderzo | 1979 | –– | –– |
25 | Le Grand Fossé | Uderzo yn unig | 1980 | –– | –– |
26 | L'Odyssée d'Astérix | Uderzo yn unig | 1981 | –– | –– |
27 | Le Fils d'Astérix | Uderzo yn unig | 1983 | Asterix a'r Pwt Bach Twt | 2020 (Dalen) |
28 | Astérix chez Rahàzade | Uderzo yn unig | 1987 | –– | –– |
29 | La Rose et le Glaive | Uderzo yn unig | 1991 | –– | –– |
30 | La Galère d'Obélix | Uderzo yn unig | 1996 | –– | –– |
31 | Astérix et Latraviata | Uderzo yn unig | 2001 | –– | –– |
32 | Astérix et la rentrée gauloise | Uderzo yn unig | 2003 | –– | –– |
33 | Le ciel lui tombe sur la tête | Uderzo yn unig | 2005 | –– | –– |
34 | L'Anniversaire d'Astérix et Obélix – Le Livre d'or | Uderzo yn unig | 2009 | –– | –– |
35 | Astérix chez les Pictes | Ferri a Conrad | 2013 | Asterix a Gwŷr y Gogledd | 2020 (Dalen) |
36 | Le Papyrus de César | Ferri a Conrad | 2015 | –– | –– |
37 | Astérix et la Transitalique | Ferri a Conrad | 2017 | –– | –– |
38 | La Fille de Vercingétorix | Ferri a Conrad | 2019 | –– | –– |
39 | Astérix et le Griffon | Ferri a Conrad | 2021 | –– | –– |
Cyfieithiadau
golyguMae'r tri prif lyfr wedi eu cyfieithu i drost 100 o ieithoedd a thafodieithoedd. Heblaw y Ffrangeg gwreiddiol, mae'r rhan fwyaf ar gael yn Estoneg, Saesneg, Iseldireg, Almaeneg, Daneg, Islandeg, Norwyeg, Swedeg, Ffinneg, Sbaeneg, Catalaneg, Basgeg, Portiwgaleg (a Portiwgaleg Brasil), Eidaleg, Hwngareg, Pwyleg, Romaneg, Groeg, Llydaweg, Twrceg, Slofeneg, Bwlgareg, Serbeg a Croateg. Heblaw ieithoedd cyfoes Ewrop mae nifer hefyd wedi eu cyfieithu i Esperanto, Indoneseg, Mandarin, Corëeg, Siapaneg, Bengaleg, Affricaneg, Arabeg, Hindi, Hebraeg, Ffrisieg, Lladin a Hen Roeg.
Yn Ffrainc, Ffindir, Gwlad Pŵyl ac yn arbennig yn yr Almaen, mae nifer wedi cael eu cyfieithu i ieithoedd lleiafrifol a thafodieithoedd lleol megis Alsaseg, Swabeg, Sacsoneg Isel, Caswbeg, Sileseg, Savo, Careleg, Rauma a bratiaith Helsinki. Cyhoeddwyd rhifyn arbennig o'r llyfr cyntaf, Asterix y Galiad, yn iaith leiafrifol Portiwgal, sef Mirandeg.
Alun Ceri Jones a gyfieithodd yr 8 llyfr Cymraeg gyntaf a cyhoeddwyd hwy gan Wasg y Dref Wen.[3] Ef aeth ymlaen i sefydlu Dalen, gan ail-gyhoeddi 4 ohonynt a chyhoeddi 2 lyfr pellach yn 2012. Ond, oherwydd rhesymau hawlfraint, bu'n rhaid ail-gyfieithu ac ail-enwi'r cymeriadau yn y broses.[4]
Ffynonellau
golygu- ↑ (Ffrangeg) BDoubliées. Pilote année 1959.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-07. Cyrchwyd 2008-10-15.
- ↑ COFIO... Dyma 1977. BBC Cymru'r Byd.
- ↑ Ann Gruffydd Rhys (Hydref 2012). Ffarwel Crycymalix, Henffych Gwyddoniadix. Barn. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2012.
- (Ffrangeg) Astérix dans Pilote BDoubliées
- (Ffrangeg) Astérix Bedetheque
Darllen pellach
golygu- "Llyfrau Asterix, 'yr hen fyd' a'r Gymraeg", BBC Cymru Fyw, 11 Ionawr 2023, https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/64214951
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Asterix