Addasiad gan Sharon Morgan o'r ddrama The Laramie Project gan Moisés Kaufman yw Gwaun Cwm Garw.

Gwaun Cwm Garw
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMoisés Kaufman Edit this on Wikidata
Genredocumentary theatre Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afDenver Center for the Performing Arts Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af2000 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLaramie Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r ddrama wreiddiol yn ymwneud â llofruddiaeth Matthew Shepard yn Laramie, Wyoming ym 1998, llofruddiaeth a gymhellwyd gan homoffobia mae'n debyg. Cynhaliodd Cwmni Theatr Tectonic dros 200 o gyfweliadau â thrigolion Laramie wrth i'r ddrama cael ei hysgrifennu, ac mae dyddiaduron aelodau'r cwmni a gohebiadau a ymddangosodd yn y wasg yn ymddangos yn y ddrama yn ogystal.

Addaswyd y ddrama i'r Gymraeg gan Sharon Morgan, ac mae cynhyrchiad Theatr Bara Caws ar daith yn 2007. Adleolwyd y ddrama i gymuned wledig yng Nghymru yn yr addasiad.

Dolenni allanol golygu