Theatr Bara Caws
Cwmni theatr cymunedol yw Theatr Bara Caws a sefydlwyd yn 1977. Bwriad y cwmni yw cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i'r trawstoriad ehangaf posib o’r gymuned. Llwyfannir o leia tri cynhyrchiad y flwyddyn.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cwmni theatr, sefydliad ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1977 ![]() |
Pencadlys | Caernarfon ![]() |
Gwefan | http://theatrbaracaws.com/ ![]() |
Mae'r Cwmni'n elusen gofrestredig sy'n cael ei ariannu gan grantiau, yn bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac awdurdodau Sirol Gwynedd, Môn a Chonwy. Betsan Llwyd yw'r Cyfarwyddwr Artistig presennol.
Mae'r cwmni yn cynnig gwaith ac hyfforddiant i, ac ymestyn sgiliau, ymarferwyr theatrig o bob math – hen a newydd – yn actorion, awduron, a thechnegwyr.
Dolenni Allanol golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Theatr Bara Caws - Y Cwmni. Adalwyd ar 3 Awst 2017.