Gwe-Awê

gwefan ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) o'r 1990au

Gwefan Gymraeg ar ffurf cyfeiriadur o wefannau a phobol oedd Gwe-Awê; ei bwrpas oedd hyrwyddo cymuned Gymreig ar y we. Y gwefeistr oedd Alun Rhys Jones a oedd ar y pryd yn fyfyriwr ymchwil mewn Bywyd Artifisial (ALife) yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Manceinion. Roedd y wefan yn cynnwys cylchgrawn gwyddoniaeth newydd o'r enw "DELTA" ac yn caniatau i ddefnyddwyr greu 'dalen cartref' neu 'Hafan' eu hunain a hynny am ddim.

Gwe-Awê
Math o gyfrwnggwefan Edit this on Wikidata
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2 Mai 1995 Edit this on Wikidata

Cyhoeddodd Alun Rhys Jones fodolaeth y wefan Gwe-Awê ar restr drafod WELSH-L ar 2 Mai 1995, fis wedi lansio'r wefan Gymraeg gyntaf, Curiad.[1]

Alun Rhys Jones

golygu

Wedi graddio, dychwelodd i Gymru gan ddechrau cwmni 'Technoleg Gwe' yn 1996, gyda'i swyddfa ym Mharc Menai, Bangor. Cofrestrodd y parth 'wales.com' yn 1995 ynghyd â fersiynau org/net - gwerthwyd rhain yn ddiweddarach.[2] Roedd y cwmni yn datblygu gwefannau a gwasanaethau ar lein. Aeth Rhys ymlaen i sefydlu gwasanaeth taliadau ar lein SecureTrading, sydd a'i bencadlys yn dal ym Mangor. Wedi gwerthu y cwmni, aeth ymlaen i sefydlu nifer o gwmniau eraill yn cynnwys Sanoodi (gwefan ar gyfer mapio gweithgareddau yr awyr agored), Accountis (gwasanaeth ar gyfer anfonebau electronig) a Bookry (gwasanaeth creu llyfrau rhyngweithiol iBooks).[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyma'r ebost a ddanfonwyd i Welsh-L, ble mae Rhys yn disgrifio'r wefan Gwe-Awê: Yno ceir archifdy o'r rhestr yma (WELSH-L), ac o'r grwp soc.culture.welsh. Gellir eu rhestru yn ol pwnc, dyddiad, neu awdur, sy'n gwneud hi'n haws dilyn trafodaethau gwahanol ar y ddau restr. Yn ogystal, mae "FAQ" WELSH-L ar gael, ac fe fydd yr un am soc.culture.welsh hefyd, unwaith i hwnw fodoli! Mae cysylltiadau i bob safle arall 'rwyf wedi dod ar ei draws ar y rhwydwaith sy'n ymwneud â Chymru. Mae'r fersiwn electroneg o'r cylchgrawn gwyddoniaeth "DELTA" newydd yma hefyd! Fy nymuniad yw i'r safle dyfu yn ol bwriad y rhai fydd yn ei ddefnyddio - h.y. y gymuned Cymreig wasgar sydd ar y rhwydwaith. Hoffwn glywed gan unrhywun gyda syniadau o'r fath. I hybu'r syniad o'r "gymuned Gymraeg rhithwir", mae modd i unrhywun ychwanegu eu henw, email, a "URL" i'w tudalen cartref ar y we, i restr gwybodaeth yn y safle yma. Rwy'n gobeithio fydd hyn yn fodd i bobl ddod i adnabod eraill yn haws, ac yn fodd o ddod o hyd i bobl Cymraeg ar y rhwydwaith. Yn ogystal, mae modd i bobl greu taflen "world wide web" yn awtomatic ar y safle yma, a'i ddefnyddio fel eu taflen cartref ar y we. Gwasanaeth arbrofol yw hwn, ond rwy'n gobeithio byddwch yn ychwanegu at y gymuned rhithwir yma, a gwneud yr holl beth dyfu yn wasanaeth defnyddiol! Bydd y cyfan yn ddwy ieuthog yn y pen draw - ond nid yw'r holl dudalennau wedi eu gorffen eto - ac mae sawl gwall sillafu!!
  2. Paper invoices a thing of the past , WalesOnline, 8 Hydref 2005. Cyrchwyd ar 10 Ionawr 2019.
  3.  Alun Rhys JONES. Cofnod Cyfarwyddwr Tŷ'r Cwmniau. Adalwyd ar 3 Mai 2018.