Rhan o'r We Fyd Eang yw'r we dywyll (Saesneg: the dark web), sy'n bodoli ar darknets: rhwydweithiau o droshaenu (darknets: overlay networks) sy'n defnyddio'r Rhyngrwyd ond sydd angen meddalwedd neu ganiatad penodol i gael mynediad.[1][2][3] Trwy'r we dywyll, gall rhwydweithiau cyfrifiadurol preifat gyfathrebu a chynnal busnes yn ddienw heb ddatgelu gwybodaeth am y defnyddiwr, megis lleoliad.[4][5] Mae'r we dywyll yn ffurfio rhan fechan o'r we ddofn, y rhan o'r We nad yw wedi'i mynegeio gan beiriannau chwilio'r we, er weithiau defnyddir y term gwe ddofn ar gam am y we dywyll.[6][7]

Gwe dywyll
Tor. Logo'r meddalwedd
Enghraifft o'r canlynolproblem gymdeithasol, ffynhonnell risg Edit this on Wikidata
Mathcynnwys y we Edit this on Wikidata
Rhan ogwe ddofn, darknet Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2009 Edit this on Wikidata

Mae'r rhwydi tywyll (darknets) sy'n ffurfio'r we dywyll yn cynnwys rhwydweithiau cymar i gymar bychan, ffrind-i-ffrind, yn ogystal â rhwydweithiau mawr, poblogaidd fel Tor, Freenet, I2P, a Riffle a weithredir gan sefydliadau cyhoeddus ac unigolion.[5] Mae defnyddwyr y we dywyll yn cyfeirio at y we arferol fel Clearnet oherwydd nad yw wedi ei hamgryptio.[8] Mae gwe dywyll Tor neu onionland[9] yn defnyddio'r dechneg o draffig anhysbys-dienw o lwybro nionyn (Saesneg: onion routing) o dan ôl -ddodiad parth lefel uchaf y rhwydwaith .onion.

Terminoleg

golygu

Diffiniad

golygu

Mae'r we dywyll wedi'i drysu'n aml gyda'r 'we ddofn', y rhannau o'r we nad ydynt wedi'u mynegeio mewn modd chwiliadwy gan beiriannau chwilio. Daeth y term 'gwe dywyll' i'r amlwg gyntaf yn 2009; fodd bynnag, nid yw'n hysbys pryd y cafodd ei fathu.[10] Dim ond y we arwyneb (Saesneg: surface web) y mae'r rhan helaeth o ddefnyddwyr rhyngrwyd yn ei ddefnyddio, data y gall porwr gwe arferol fel Google neu Firefox gael mynediad ato.[11] Fel y dywedwyd, mae'r we dywyll yn rhan fach o'r we ddofn, ond mae angen meddalwedd wedi'i theilwra er mwyn cyrchu ei chynnwys. Mae'r dryswch hwn yn dyddio'n ôl i o leiaf 2009.[12] Ers hynny, yn enwedig wrth adrodd ar Silk Road, mae’r ddau derm wedi’u cyfuno a'u cymysgu’n aml,[13] er gwaethaf argymhellion y dylid gwahaniaethu rhyngddynt.[1][6]

Mae'r we dywyll, a elwir hefyd yn 'wefannau darknet', yn hygyrch yn unig trwy rwydweithiau'r meddalwedd Tor (prosiect 'The Onion Routing') sy'n cael eu creu'n benodol ar gyfer y we dywyll.[11] [14] Defnyddir porwr Tor a gwefannau sy'n hygyrch gan Tor yn eang ymhlith defnyddwyr darknet a gellir eu hadnabod gan y parth ".onion".[15] Mae porwyr Tor yn creu pwyntiau mynediad a llwybrau wedi'u hamgryptio ar gyfer y defnyddiwr, gan ganiatáu i'w chwiliadau gwe tywyll a'u gweithredoedd fod yn ddienw.[11]

Mae defnyddwyr y darknet a'u lleoliad yn parhau'n ddienw ac ni ellir eu holrhain oherwydd y system amgryptio haenog (yr haenau yma sy'n rhoi'r enw 'nionyn'). Mae'r dechnoleg amgryptio darknet yn llwybro data'r defnyddwyr trwy nifer fawr o weinyddion canolradd (intermediate servers), sy'n amddiffyn hunaniaeth y defnyddwyr ac yn sicrhau y bydd yn anhysbys. Dim ond trwy nod dilynol yn y cynllun y gellir dadgryptio'r wybodaeth a drosglwyddir, sy'n arwain at y nod ymadael. Mae'r system gymhleth yn ei gwneud bron yn amhosibl atgynhyrchu'r llwybr nod a dadgryptio'r wybodaeth fesul haen.[16] Oherwydd y lefel uchel o amgryptio, nid yw gwefannau yn gallu olrhain daearleoli nac IP y defnyddwyr, ac nid yw'r defnyddwyr yn gallu cael y wybodaeth hon am y gwesteiwr (host). Felly, mae cyfathrebu rhwng defnyddwyr darknet wedi'i amgryptio'n fawr gan ganiatáu i ddefnyddwyr siarad, blogio a rhannu ffeiliau'n gyfrinachol.

Cynnwys

golygu

Canfu astudiaeth yn Rhagfyr 2014 gan y Cymro Gareth Owen o Brifysgol Portsmouth mai’r math mwyaf cyffredin o gynnwys ar Tor oedd pornograffi plant, wedi’i ddilyn gan farchnadoedd du, tra bod y gwefannau unigol â’r traffig mwyaf wedi’u neilltuo i weithgaredd botnet.[17] Mae llawer o safleoedd chwythu'r chwiban yn digwydd[18] yn ogystal â fforymau trafodaethau gwleidyddol, agored.[19] Mae gwefannau sy'n gysylltiedig â Bitcoin, gwerthu gynnau, hacio, prynu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â thwyll, a gwasanaethau archebu drwy'r post (ee cyffuriau a thabledi) yn rhai o'r rhai mwyaf toreithiog.[17]

Yn Rhagfyr 2020, amcangyfrifwyd bod nifer y safleoedd Tor gweithredol .onion oddeutu 76,300 (yn cynnwys llawer o gopïau). O'r rhain, mae gan 18,000 gynnwys gwreiddiol.[20]

Gwasanaethau Bitcoin

golygu

Bitcoin yw un o'r prif arian cyfred digidol a ddefnyddir mewn marchnadoedd gwe dywyll oherwydd ei hyblygrwydd a'i anhysbysrwydd.[21] Gyda Bitcoin, gall pobl guddio eu bwriad a phwy ydynt.[22] Defnyddir gwasanaeth cyfnewid arian cyfred digidol yn aml i drawsnewid Bitcoin yn arian gêm ar-lein (fel darnau arian aur World of Warcraft) a fydd yn cael ei drawsnewid yn ôl yn arian cyfred fiat yn ddiweddarach.[23] Mae gwasanaethau Bitcoin fel tymbleri ar gael yn aml ar Tor, ac mae rhai - fel Grams - yn integreiddio i farchnad darknet.[24][25] Amlygodd astudiaeth ymchwil a gynhaliwyd gan Jean-Loup Richet, cymrawd ymchwil yn ESSEC, ac a gynhaliwyd gyda Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddu, dueddiadau newydd yn y defnydd o dymbleri Bitcoin at ddibenion gwyngalchu arian.

Pornograffi anghyfreithlon

golygu

Mae bron yn amhosib dod o hyd i bornograffi meddal. Y cynnwys mwyaf poblogaidd ar y we dywyll yw pornograffi anghyfreithlon - yn fwy penodol, pornograffi plant.[21] O roi termau diniwed fel 'erotig' neu 'model', ceir llwythi o bornograffi plant. Mae tua 80% o'r traffig yn gysylltiedig â phornograffi plant, er ei bod yn anodd dod o hyd iddo hyd yn oed ar y we dywyll.[21] Roedd gwefan o'r enw Lolita City, sydd ers hynny wedi'i thynnu i lawr, yn cynnwys dros 100 GB o gyfryngau pornograffig plant ac roedd ganddi tua 15,000 o aelodau. [21]

Ceir camau cyfreithiol, rheolaidd yn erbyn safleoedd sy'n dosbarthu pornograffi plant[26][27] - yn aml trwy olrhain cyfeiriadau IP y defnyddwyr.[28][29] Yn 2015, ymchwiliodd yr FBI i wefan o'r enw Playpen gan ei dileu.[21] Ar y pryd, Playpen oedd y wefan pornograffi plant fwyaf ar y we dywyll gyda dros 200,000 o aelodau.[21] Mae safleoedd yn defnyddio systemau cymhleth o ganllawiau, fforymau a rheoleiddio cymunedol.[30] Cynnwys arall yw fideos o artaith rhywioledig a lladd anifeiliaid[31] a porn dial.[32] Ym Mai 2021, dywedodd heddlu’r Almaen eu bod wedi datgymalu un o rwydweithiau pornograffi plant mwyaf y byd ar y we dywyll o’r enw Boystown, roedd gan y wefan dros 400,000 o ddefnyddwyr cofrestredig. Arestiwyd pedwar o bobol mewn cyrchoedd gan yr heddlu, gan gynnwys dyn o Baragwâi, ar amheuaeth o redeg y rhwydwaith. Dywedodd Europol fod nifer o safleoedd sgwrsio pedoffiliaid hefyd wedi'u tynnu i lawr yn y gweithrediad cudd-wybodaeth hwn.[33][34]

Terfysgaeth

golygu

Trodd sefydliadau terfysgol at y rhyngrwyd mor gynnar â'r 1990au; fodd bynnag, denodd y we dywyll y sefydliadau hyn oherwydd fod y defnyddwyr yn anhysbys, y diffyg rheoleiddio, y rhyngweithio cymdeithasol dan glogyn, a hygyrchedd hawdd.[35] Dtwedir fod y grwpiau hyn wedi bod yn manteisio ar y llwyfannau sgwrsio o fewn y we dywyll i ysbrydoli ymosodiadau terfysgol.[35] Mae grwpiau hyd yn oed wedi postio canllawiau "Sut i...", gan ddysgu pobl sut i ddod a chuddio eu hunaniaeth fel terfysgwyr. [35]

Daeth y we dywyll yn fforwm ar gyfer propaganda terfysgol, canllawiau, ac yn bwysicaf oll, cyllid.[35] Pan grëwyd Bitcoin, crëwyd trafodion dienw a oedd yn caniatáu rhoddion a chyllid dienw.[35] Trwy dderbyn Bitcoin, roedd terfysgwyr bellach yn gallu ariannu arfau a ffrwydron.[35] Yn 2018, cyhuddwyd unigolyn o’r enw Ahmed Sarsur am geisio prynu ffrwydron a llogi saethwyr i gynorthwyo terfysgwyr Syria, yn ogystal â cheisio darparu cymorth ariannol iddynt, i gyd trwy’r we dywyll.[21]

Plismona'r we dywyll

golygu

Bu dadleuon bod y we dywyll yn hyrwyddo rhyddid sifil, fel "rhyddid mynegiant, preifatrwydd, anhysbysrwydd".[4] Mae rhai erlynwyr ac asiantaethau'r llywodraeth yn pryderu ei fod yn hafan i weithgarwch troseddol. Mae'r we ddofn a'r we dywyll yn gymwysiadau yn un pwrpas i ddarparu preifatrwydd ac anhysbysrwydd. Mae plismona yn ymwneud â thargedu gweithgareddau penodol ar y we breifat yr ystyrir eu bod yn anghyfreithlon neu'n destun sensoriaeth rhyngrwyd.

Newyddiaduraeth

golygu

Mae llawer o newyddiadurwyr, sefydliadau newyddion amgen, addysgwyr ac ymchwilwyr yn ddylanwadol wrth ysgrifennu a siarad am y darknet, ac yn esbonio'i ddefnydd i'r cyhoedd.[36][37] Mae sylwadau yn y cyfryngau fel arfer yn adrodd ar y we dywyll mewn dwy ffordd; gan fanylu ar bŵer a rhyddid mynegiant, neu'n fwy cyffredin yn ailddatgan anghyfreithlondeb ei gynnwys, fel hacwyr cyfrifiaduron neu bornograffi plant.[38][39][38]

Mae gwefannau newyddion arbenigol Clearweb, gwefanau fel DeepDotWeb[40][41] ac All Things Vice[42] yn darparu darllediadau newyddion a gwybodaeth ymarferol am wefannau a gwasanaethau tywyll; fodd bynnag, caewyd DeepDotWeb gan yr awdurdodau yn 2019.[43] Mae'r Wici Cudd a'i ddrychau a meddalwedd ffyrc eraill yn cynnal rhai o'r cyfeiriaduron mwyaf o gynnwys ar unrhyw adeg benodol. Mae cyfryngau traddodiadol a sianeli newyddion fel ABC News wedi cynnwys rhaglenni sy'n ymchwilio i'r darknet.[44]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Going Dark: The Internet Behind The Internet". npr.org. 25 Mai 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai 2015. Cyrchwyd 29 Mai 2015.
  2. "Clearing Up Confusion – Deep Web vs. Dark Web". BrightPlanet. 2014-03-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-16.
  3. Egan, Matt (12 January 2015). "What is the dark web? How to access the dark website – How to turn out the lights and access the dark web (and why you might want to)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2015. Cyrchwyd 18 Mehefin 2015.
  4. 4.0 4.1 Ghappour, Ahmed (2017-09-01). "Data Collection and the Regulatory State". Connecticut Law Review 49 (5): 1733. https://scholarship.law.bu.edu/faculty_scholarship/255.
  5. 5.0 5.1 Ghappour, Ahmed (2017-04-01). "Searching Places Unknown: Law Enforcement Jurisdiction on the Dark Web". Stanford Law Review 69 (4): 1075. https://scholarship.law.bu.edu/faculty_scholarship/204.
  6. 6.0 6.1 Solomon, Jane (6 Mai 2015). "The Deep Web vs. The Dark Web: Do You Know The Difference?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2015. Cyrchwyd 26 Mai 2015.
  7. "The dark web Revealed". Popular Science. tt. 20–21.
  8. "Clearnet vs hidden services – why you should be careful". DeepDotWeb. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2015. Cyrchwyd 4 Mehefin 2015.
  9. Chacos, Brad (12 August 2013). "Meet Darknet, the hidden, anonymous underbelly of the searchable Web". PC World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 August 2015. Cyrchwyd 16 August 2015.
  10. Hatta, Masayuki (December 2020). "Deep web, dark web, dark net: A taxonomy of "hidden" Internet". Annals of Business Administrative Science 19 (6): 277–292. doi:10.7880/abas.0200908a.
  11. 11.0 11.1 11.2 Lacey, David; Salmon, Paul M (2015). "It's Dark in There: Using Systems Analysis to Investigate Trust and Engagement in Dark Web Forums". In Harris, Don (gol.). Engineering Psychology and Cognitive Ergonomics. 9174. Cham: Springer International Publishing. tt. 117–128. doi:10.1007/978-3-319-20373-7_12. ISBN 978-3-319-20372-0.
  12. Beckett, Andy (26Tachwedd 2009). "The dark side of the internet". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 September 2013. Cyrchwyd 9 August 2015.
  13. "NASA is indexing the 'Deep Web' to show mankind what Google won't". Fusion. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-30.
  14. "The Deep Web and Its Darknets – h+ Media". h+ Media. 2015-06-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-06. Cyrchwyd 2016-11-18.
  15. Lacson, Wesley; Jones, Beata (2016). "The 21st Century Darknet Market: Lessons From The Fall Of Silk Road". International Journal of Cyber Criminology 10: 40–61. doi:10.5281/zenodo.58521. http://cybercrimejournal.com/Lacson%26Jonesvol10issue1IJCC2016.pdf. Adalwyd 2023-03-08.
  16. Moore, Daniel (2016). "Cryptopolitik and the Darknet". Survival 58 (1): 7–38. doi:10.1080/00396338.2016.1142085.
  17. 17.0 17.1 Mark, Ward (30 December 2014). "Tor's most visited hidden sites host child abuse images". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2015. Cyrchwyd 28 Mai 2015.
  18. "Everything You Need to Know on Tor & the Deep Web". whoishostingthis. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 July 2015. Cyrchwyd 18 Mehefin 2015.
  19. Cox, Joseph (25 February 2015). "What Firewall? China's Fledgling Deep Web Community". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mehefin 2015. Cyrchwyd 19 Mehefin 2015.
  20. "Le Dark web en chiffres". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-01.
  21. 21.0 21.1 21.2 21.3 21.4 21.5 21.6 Kaur, Shubhdeep; Randhawa, Sukhchandan (June 2020). "Dark Web: A Web of Crimes". Wireless Personal Communications 112 (4): 2131–2158. doi:10.1007/s11277-020-07143-2.
  22. Kirkpatrick, Keith (2017-02-21). "Financing the dark web" (yn en). Communications of the ACM 60 (3): 21–22. doi:10.1145/3037386.
  23. Richet, Jean-Loup (2012). "How to Become a Black Hat Hacker? An Exploratory Study of Barriers to Entry Into Cybercrime". 17th AIM Symposium. http://aim.asso.fr/index.php/mediatheque/finish/26-aim-2012/816-how-to-become-a-black-hat-hacker-an-exploratory-study-of-barriers-to-entry-into-cybercrime/0.
  24. Allison, Ian (11 February 2015). "Bitcoin tumbler: The business of covering tracks in the world of cryptocurrency laundering". International Business Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 September 2015. Cyrchwyd 8 December 2015.
  25. "Helix Updates: Integrated Markets Can Now Helix Your BTC". 5 August 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 February 2016. Cyrchwyd 8 December 2015.
  26. Willacy, Mark (26 August 2015). "Secret 'dark net' operation saves scores of children from abuse; ringleader Shannon McCoole behind bars after police take over child porn site". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 August 2015. Cyrchwyd 26 August 2015.
  27. Conditt, Jessica (8 January 2016). "FBI hacked the Dark Web to bust 1,500 pedophiles". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 January 2016. Cyrchwyd 8 January 2016.
  28. Cox, Joseph (5 January 2016). "The FBI's 'Unprecedented' Hacking Campaign Targeted Over a Thousand Computers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 January 2016. Cyrchwyd 8 January 2016.
  29. Farivar, Cyrus (16 Mehefin 2015). "Feds bust through huge Tor-hidden child porn site using questionable malware". Ars Technica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 August 2015. Cyrchwyd 8 August 2015.
  30. Evans, Robert (16 Mehefin 2015). "5 Things I Learned Infiltrating Deep Web Child Molesters". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 August 2015. Cyrchwyd 29 August 2015.
  31. Cox, Joseph (11Tachwedd 2014). "As the FBI Cleans the Dark Net, Sites Far More Evil Than Silk Road Live On". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 July 2015. Cyrchwyd 3 August 2015.
  32. Markowitz, Eric (10 July 2014). "The Dark Net: A Safe Haven for Revenge Porn?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26Tachwedd 2015. Cyrchwyd 3 August 2015.
  33. "4 arrested in takedown of dark web child abuse platform with some half a million users". Europol. 3 Mai 2021.
  34. "Child sexual abuse: Four held in German-led raid on huge network". BBC. 3 Mai 2021.
  35. 35.0 35.1 35.2 35.3 35.4 35.5 Weimann, Gabriel (2016-03-03). "Going Dark: Terrorism on the Dark Web" (yn en). Studies in Conflict & Terrorism 39 (3): 195–206. doi:10.1080/1057610X.2015.1119546. ISSN 1057-610X.
  36. Burrell, Ian (August 28, 2014). "The Dark Net: Inside the Digital Underworld by Jamie Bartlett, book review". Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 20, 2015.
  37. "The Growth of Dark Subcultures On the Internet, The Leonard Lopate Show". WNYC. June 2, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 20, 2016.
  38. 38.0 38.1 "Power/freedom on the dark web: A digital ethnography of the Dark Web Social Network". New Media & Society 18 (7): 1219–1235. August 2016. doi:10.1177/1461444814554900.
  39. Pagliery, Jose (March 10, 2014). "The Deep Web you don't know about". CNN Business. Cyrchwyd March 27, 2021.
  40. Swearingen, Jake (2Hydref 2014). "A Year After Death of Silk Road, Darknet Markets Are Booming". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2015. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
  41. Franceschi-Bicchierai, Lorenzo (13 Mai 2015). "Hackers Tried To Hold a Darknet Market For a Bitcoin Ransom". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2015. Cyrchwyd 19 Mai 2015.
  42. Solon, Olivia (3 February 2013). "Police crack down on Silk Road following first drug dealer conviction". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mai 2015. Cyrchwyd 27 Mai 2015.
  43. Kan, Michael (May 7, 2019). "Feds Seize DeepDotWeb for Taking Money From Black Market Sites". PCMAG (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-12-28.
  44. Viney, Steven (January 27, 2016). "What is the dark net, and how will it shape the future of the digital age?". ABC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 20, 2016.

Dolenni allanol

golygu