Darluniad noeth neu rywiol o berson a ddosbarthir heb ei ganiatâd ef neu ei chaniatâd hi yw pornograffi dial.[1] Fel rheol cynhyrchir y delweddau neu fideo gan bartner mewn perthynas rywiol, gyda chaniatâd y person sy'n ymddangos yn y deunydd neu hebddo; neu wedi eu creu gan y person ei hun a'u rhoi neu ddanfon i'r partner yn breifat. Fe all yr un sy'n meddu ar y deunydd ei ddefnyddio i flacmelio'r un sy'n wrthrych y deunydd i berfformio gweithgareddau rhyw, neu i'w orfodi i barháu â'r berthynas. Yn sgil achosion sifil a niferoedd cynyddol o achosion a riportiwyd, pasiwyd deddfau amrywiol i wahardd pornograffi dial mewn nifer o wledydd. Cei'r arfer ei disgrifio hefyd yn ffurf ar gamdriniaeth seicolegol a thrais yn y cartref.[2]

Pornograffi dial
Enghraifft o'r canlynolmemyn rhyngrwyd Edit this on Wikidata
Mathpornograffi, trosedd, digital abuse, sex crime, digital sexual violence Edit this on Wikidata

Gan amlaf defnyddir y term "pornograffi dial" i gyfeirio at y weithred o gyhoeddi lluniau neu fideo o gyn-gariad ar y we heb ganiatâd, gyda'r bwriad o fygythio neu godi cywilydd ar y person, yn sgil chwalu'r berthynas.[1][3] Fe all y deunydd gael ei uwchlwytho i wefan, ei bostio ar safle rhwydweithio cymdeithasol, neu ei rannu trwy neges destun neu e-bost. Camddefnyddir y term yn aml i ddisgrifio sefyllfaoedd nad ydynt yn ymwneud â dial, megis ddeunydd rhywiol a ddosbarthir gan hacwyr neu gan unigolion sy'n dymuno arian neu sylw. Fel arfer caiff manylion personol am yr unigolyn eu postio gyda'r deunydd, megis enw, cyfeiriad, gweithle, a dolenni i dudalennau ar gyfryngau cymdeithasol.[4][5] Fe all fywyd y person sy'n darged gael ei niweidio o ganlyniad i bornograffi dial, ac mae'n bosib iddynt ddioddef anffafriaeth yn y gweithle, cael eu dilyn yn annymunedig ar y we, ac ymosodiad corfforol. Gan fod nifer o gwmnïau yn ymchwilio i ffynonellau posib o sylw negyddol, mae nifer o ddioddefwyr pornograffi dial wedi colli eu swyddi ac yn eu cael bron yn amhosib i gael swydd arall.[6]

Ymhlith y rhannau o'r byd sydd wedi deddfu yn erbyn pornograffi dial mae Cymru a Lloegr, yr Almaen, Israel, 27 o daleithiau'r Unol Daleithiau,[7] a thalaith Victoria yn Awstralia.

Y gyfraith yng Nghymru a Lloegr golygu

Creodd adran 33 Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 drosedd newydd o "ddatgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat heb gydsyniad unigolyn sy’n ymddangos ynddynt gyda’r bwriad o achosi gofid i’r unigolyn hwnnw neu honno". Mae'n cynnwys unrhyw un sy’n ail drydaru neu anfon ymlaen y deunydd heb ganiatâd os bwreidir achosi gofid, ond nid os yr unig fwriad oedd oherwydd ei fod ef neu hi yn credu ei fod yn ddoniol.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Citron & Franks 2014, t. 346
  2. Bates, Samantha (2015-08-04). "Stripped": An analysis of revenge porn victims' lives after victimization. Simon Fraser University. http://summit.sfu.ca/item/15668. Adalwyd 2016-01-23.
  3.  Galw am egluro’r gyfraith mewn achosion ‘pornograffi dial’. golwg360 (29 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 14 Mai 2016.
  4. Emily Bazelon, Why Do We Tolerate Revenge Porn?", Slate (25 Medi 2013).
  5. Eric Larson, "It's Still Easy to Get Away With Revenge Porn", Mashable, 21 Hydref 2013.
  6. Danielle K. Citron, "‘Revenge porn’ should be a crime", CNN Opinion (30 Awst 2013).
  7. "Revenge porn: Misery merchants". The Economist. 5 Gorffennaf 2014.
  8.  Canllawiau ar erlyn achosion sy’n ymwneud â chyfathrebiadau a anfonir trwy gyfryngau cymdeithasol. Gwasanaeth Erlyn y Goron (Mawrth 2016). Adalwyd ar 14 Mai 2016.

Darllen pellach golygu