Gweirlöyn bach y mynydd

Erebia epiphron
(Canillo, Andorra)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Erebia
Rhywogaeth: E. epiphron
Enw deuenwol
Erebia epiphron
(Knoch, 1783)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn bach y mynydd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod bach y mynydd; yr enw Saesneg yw Mountain Ringlet neu Small Mountain Ringlet, a'r enw gwyddonol yw Erebia epiphron.[1] Dyma'r unig löyn byw o'r math Alpinaidd sydd i'w weld yng ngwledydd Prydain.

Mae'n byw mewn gweiriau a chorsydd ac mae i'w weld uwch llus y mynydd (Vaccinium myrtillus) neu Tresgl y Moch (Potentilla erecta) a gweiriach tir agored.[2]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae gweirlöyn bach y mynydd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. http://www.nhm.ac.uk/fff-pcp/glob.pl?report=Fauna&Fauna.[FaunaNo]=53; adalwyd 13/06/2012