Gweirlöyn y perthi

Pyronia tithonus
Benyw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Pyronia
Rhywogaeth: P. tithonus
Enw deuenwol
Pyronia tithonus
(Linnaeus, 1767)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn y perthi, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod y perthi; yr enw Saesneg yw Hedge Brown, Gatekeeper, a'r enw gwyddonol yw Pyronia tithonus.[1]

Pyronia tithonus

Mae'n debyg iawn i weirlöyn y ddôl ond gellir dweud y gwahaniaeth gan fod gweirlöyn y perthi yn cael seibiant gyda'i adenydd wedi'u ar agor a gweirlöyn y ddôl yn aros â'i ddwy adain wedi'u cau. Mae glöyn y perthi, hefyd, ychydig yn llai.[2]

Mae'r Siani flewog yn hoff iawn o fwyta gweiriau megis: Agrostis, Festuca, Poa ac Elymus repens.

 
Pieris rapae a Pyronia tithonus

Mae'r oedolyn, ar y llaw arall, yn cael ei neithdar o flodau Rubus fruticosus (sef mwyar duon), Carlina vulgaris (ysgall), Succisa pratensis, Pulicaria dysenterica, Eupatorium cannabinum, Ligustrum vulgare (prifed), Jacobaea vulgaris, Trifolium pratense (meillionen) a Thymus praecox (teim)

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloÿnnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae gweirlöyn y perthi yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd gloÿnnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Anon. "Gatekeeper". A-Z of butterflies. Butterfly Conservation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-11. Cyrchwyd 8 Awst 2011.