Gwen Ffrangcon-Davies

actores

Actores Prydeinig oedd Gwen Lucy Ffrangcon-Davies (25 Ionawr 189127 Ionawr 1992).

Gwen Ffrangcon-Davies
Ganwyd25 Ionawr 1891 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ionawr 1992 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Stambourne Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • South Hampstead High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan Edit this on Wikidata
TadDavid Ffrangcon Davies Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni yn Llundain, yn ferch i'r canwr opera David Ffrangcon-Davies (né David Thomas Davies) a Annie Francis Rayner. Yn 1911 y cychwynodd ar lwyfan, fel cantores ac actores, a fe'i chanmolwyd hi'n arw gan Ellen Terry drwy gydol ei gyrfa. Yn 1924, actiodd Juliet wrth ochr John Gielgud a chwaraeodd ran Romeo; bu Gielgud yn ddiolchgar iawn iddi am y caredigrwydd y dangosodd tuag ato.

Yn 1938 actiodd gydag Ivor Novello mewn cynhyrchiad o Henry V yn Drury Lane ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ymddangosodd fel Mrs Manningham yn y cynhyrchiad cyntaf o Gas Light gan Patrick Hamilton.

Yn gant oed chwaraeodd ran mewn drama deledu am Sherlock Holmes, sef The Master Blackmailer.

Teledu

golygu
  • The Hill (1959)
  • Londoners (1965)
  • Speaking of Murder (1971)
  • The Edwardians (1972)

Ffilmiau

golygu
  • Tudor Rose (1936)
  • Richard of Bordeaux (1938)
  • Paul Krüger (1956)
  • The Witches (1966)
  • The Devil Rides Out (1968)
  • Leo the Last (1970)