David Ffrangcon Davies

canwr opera Cymreig

Canwr opera baritôn o Gymru oedd David Thomas Ffrangcon Davies (11 Rhagfyr 185513 Ebrill 1918).

David Ffrangcon Davies
Ganwyd11 Rhagfyr 1855 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 1918, 1918 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera, athro cerdd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
PlantGwen Ffrangcon-Davies Edit this on Wikidata

Ei fywyd golygu

Ganwyd Davies ym Methesda, Gwynedd. Cymerodd yr enw Ffrangcon ar ôl enw Nant Ffrancon. Aeth i Ysgol Friars, Bangor cyn mynd ymlaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle enillodd gradd BA yn 1881. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad a gwasanaethodd fel curad Llanaelhaiarn (1884) ac wedyn Conwy (1885). Astudiodd yr organ yng Nghonwy dan Roland Rogers. Ar ôl methu cael swydd fel canonwr yn Eglwys Gadeiriol Bangor penderfynodd ganolbwyntio ar yrfa fel cantor. Cafodd swydd fel curad Eglwys y Santes Fair yn Hoxton, Llundain, lle cafodd y cyfle i barhau â'i astudiaethau cerddororol.

Yn 1889 priododd Annie Francis Rayner. Roedd eu merch, Gwen Ffrangcon-Davies, yn actores boblogaidd gyda gyrfa yn ymestyn dros saith degawd. Bu farw Davies yn 1918.

Gyrfa gerddorol golygu

Dechreuasai Davies ymddiddori mewn cerddoriaeth diolch i ddylanwad ei dad ym Methesda. Tra yn Eglwys Fair, Hoxton, astudiodd dan y tenor William Shakespeare.

Yn 1888, dechreuodd ganu yn broffesiynol yng Nghaerdydd. Ymunodd gyda Chwmni Opera Carl Rosa a chanodd ei ran gyntaf ar y llwyfan fel yr herald yn yr opera Lohengrin, gan Wagner. Cafodd ei lwyddiant mwyaf fel Felix yn Elijah Mendelssohn, a ganodd am y tro cyntaf yn 1890 yng ngŵyl cerddoriaeth Horringham, Swydd Efrog.

Ar ddiwedd y 1890au, teithiodd Davies i ganu yn yr Unol Daleithiau a'r Almaen. Symudodd i Berlin i ganu a dysgu canu. Yn 1901 aeth ar ail daith i'r Unol Daleithiau i ganu a darlithio. Yn 1904 cafodd ei apwyntio yn athro canu yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Cyhoeddodd lyfr The Singing of the Future yn 1905.

Ffynonellau golygu

  • Martial Rose, Forever Juliet: The Life and Letters of Gwen Ffrangcon-Davies, 1891-1992 (2003).

Dolenni allanol golygu