Gwener Mal'ta
Mae Gwener Mal'ta yn un o sawl cerflun bychan palaeolithig o fenywod, a ddarganfuwyd yn Mal'ta, ar Afon Angara, ger Llyn Baikal yn Oblast Irkutsk, Siberia, Rwsia.
Disgrifiad
golyguMae'r cerfluniau bychain hyn - sy'n perthyn i ddosbarth arbennig o gerfluniau cynhanesyddol a adnabyddir fel cerfluniau Gwener - yn dyddio'n ôl tua 23,000 mlynedd. Cawsant eu cerfio o ifori mamoth.
Cafwyd hyd i tua 30 o gerfluniau bychain o fenywod o sawl ffurf yn Mal’ta. Mae'r amrywiaeth eang o ffurfiau, ynghyd â realaeth y cerfluniau, a'r amrywiaeth y manylion cerfiedig yn awgrymu'n gryf bodolaeth celf gynnar, er yn gyntefig. Cyn eu darganfod yn Mal’ta, dim ond yn Ewrop roedd cerfluniau Gwener fel hyn wedi eu darganfod. Wedi'u cerfio o ysgithrau (tusks) ifori mamoth, mae'r delweddau hyn yn arddangos arddulliau symbolig, sydd gan amlaf yn cynnwys gorbwysleisio'n fwriadol rhai elfennau o'r corff benywaidd, fel rheol y bronnau a'r ffolennau. Credir eu bod yn ymwneud â ffrwythlondeb.
Cadwraeth
golyguMae'r cerfluniau hyn yn cael eu harddangos yn barhaol yn Amgueddfa'r Hermitage yn ninas St Petersburg, Rwsia.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Cerfluniau Mal'ta[dolen farw] ar wefan Amgueddfa'r Hermitage