Gwenfron Moss

cenhades yn Tsieina ac India

Roedd Gwenfron Moss (27 Gorffennaf 189810 Awst 1991) yn fferyllydd Cymreig ddaeth yn genhades yn China, India a Zambia.

Gwenfron Moss
Ganwyd27 Gorffennaf 1898 Edit this on Wikidata
Coedpoeth Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 1991 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethcenhadwr, fferyllydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Moss yng Nghoedpoeth. Cafodd ei haddysg yn ysgol Grove Park i ferched yn Wrecsam cyn hyfforddi fel fferyllydd yn Llundain.[1]

Cenhadu golygu

Yn 1921 ymgeisiodd i fod yn genhades ond dewisodd Gymdeithas Cenhadon Llundain Gwynne Beynon i fynd i Shanghai fel fferyllydd. Roedd Moss yn gredinio serch hynny o'i galw i fynd i gynhadledd Cenhadon Swanwick yn 1925. Trefnwyd iddi gael hyfforddiant yn Carey Hall.

Aeth i China Awst 23, 1928. Treuliodd amser yn Beijing yn dysgu'r iaith cyn dychwelyd i weithio fel fferyllydd yn ysbyty Mackensie Memorial yn Tiensin.

Dychwelodd i China ddwywaith yn rhagor. Ymyrrwyd ar ei ail hymweliad gan yr ail ryfel byd. Ar ôl y rhyfel, dychwelodd unwaith eto tan i'r drefn newydd benderfynu fod pob cenad yn persona non grata. Yn 1953, gofynnwyd iddi fynd i De India lle roedd yn gyfrifol am nwyddau tecstiliau. Trefnodd werthiant gwaith crosio, lês a brodwaith yn cynnwys rhai allfeydd yng Nghymru. Gweithiodd yn India tan 1964 lle dychwelodd adref ar ôl aros yng nghanolfan Kawimbe yn Zambia.

Bu farw Moss yng Nghymru. Mae'i phapurau yn cynnwys ei llythyrau adref o China ac India yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Amgueddfa Blog: Library". National Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 November 2017.
  2. https://archives.library.wales/index.php/gwenfron-moss-papers-2