Gwenllian Lansdown
Prif Weithredwr Mudiad Meithrin yw Dr Gwenllian Lansdown (ganed 1979, Llanelwy). Bu'n Gynghorydd sir rhwng 2004 a 2010 gan gynrychioli ward Glan yr Afon ar Gyngor Dinas Caerdydd; ac yn Brif weithredwr Plaid Cymru rhwng 2007 a 2011.[1][2]
Gwenllian Lansdown | |
---|---|
Ganwyd | 1979 Llanelwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg y Santes Hilda, Rhydychen rhwng 1997 a 2001 (fel Arddangoswr, ac enillodd Faglor y Celfyddydau mewn Ieithoedd Modern) a Phrifysgol Caerdydd (MSc Econ a PhD mewn Theori Gwleidyddiaeth). Gweithiodd fel tiwtor mewn Gwleidyddiaeth tra'n gwneud ymchwil ar gyfer ei PhD.[3]
Wedi gweithio i Blaid Cymru bu'n olygydd y cofnodolyn ymchwil academaidd ar-lein, Gwerddon, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2011-14.[4]
Penodwyd hi yn Brif Weithredwr ar Mudiad Meithrin (Mudiad Ysgolion Meithrin gynt) yn 2014.[5] Fel ei rôl yn y swydd yma mae wedi siarad yn aml ar strategaeth i ddatblygu addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a bod hynny yn y Gymraeg.[6]
Yn 2019 bu iddi ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[7] Mae hi hefyd yn gweithredu fel 'Unigolyn Cyfrifol' yn ei Chylch Meithrin lleol fel gwirfoddolwr.
Personol
golyguMae hi'n briod â Arwyn Groe, ffarmwr a bardd. Mae ganddynt bedwar o blant. Mae hi'n arddel yr enw Dr Gwenllian Lansdown Davies mewn fforymau cyhoeddus a phroffesiynnol.[8]
Dolenni
golygu- Gwefan Mudiad Meithrin
- Gwestai pen-blwydd Radio Cymru gyda'r cyflwynydd Dewi Llwyd, 10 Mehefin 2018
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Plaid Appoint New Chief Executive:Plaid Cymru - the Party of Wales. Plaid Cymru (10 Medi 2007).
- ↑ Cardiff - Home, Councillor Gwenllian Landsdowne Riverside. Cyngor Caerdydd (29 Ionawr 2010).
- ↑ Kolkhorst Exhibitions. Oxford University Gazette. Prifysgol Rhydychen (17 Rhagfyr 1998).
- ↑ https://www.llyfrgell.cymru/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2020/penodi-tair-o-ymddiriedolwyr-newydd-i-fwrdd-llyfrgell-genedlaethol-cymru[dolen farw]
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/26728716
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=abKKAjVPLRQ
- ↑ https://www.llyfrgell.cymru/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2020/penodi-tair-o-ymddiriedolwyr-newydd-i-fwrdd-llyfrgell-genedlaethol-cymru[dolen farw]
- ↑ https://www.llyfrgell.cymru/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2020/penodi-tair-o-ymddiriedolwyr-newydd-i-fwrdd-llyfrgell-genedlaethol-cymru[dolen farw]