Gwenynen

(Ailgyfeiriad o Gwenyn)

Pryfyn sydd yn hel ac yn bwyta neithdar a phaill yw gwenynen. Mae ganddo gysylltiadau agos gyda gwenyn meirch a morgrugyn, ac mae'n fod pwysig iawn i blanhigion, gan eu bod yn eu peillio. Mae ganddynt golyn fel arf i amddiffyn eu hunain drwy bigo.

Y Gwenynwr wrth ei waith.

Mae mwy nag 16,000 math o rywogaethau wedi eu cofnodi hyd heddiw, ac amcangyfrifir bod o gwmpas 30,000 o rywogaethau'n bodoli drwy'r byd. Mae rhai rhywogaethau o wenyn yn byw ar eu pennau eu hunain ac eraill, megis y gwenyn mêl, yn byw mewn boncyffion coed neu wag ac adeiladir cychod gwenyn gan bobl yn arbennig er hwylustod i gynaeafu'r mêl.


Chwiliwch am gwenynen
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am bryf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.