Neithdar
Hylif llawn siwgwr a gynhyrchir gan blanhigion ydy neithdar. Caiff ei gynhyrchu gan y blodyn sy'n dennu pryfaid neu anifeiliaid peillio. Mae hefyd yn medru cael ei gynhyrchu mewn chwarennau paill allanol. Ymhlith yr anifeiliaid mwyaf cyffredin sy'n ymwneud â'r broses hon o beillio mae'r gwenyn, gloÿnnod byw, gwyfynod ac ystlymod.
Math | secretiad neu ysgarthiad, porthiant |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn economaidd mae neithdar yn eithriadol bwysig gan mai hwn ydy ffynhonnell y siwgwr ar gyfer mêl. Caiff hefyd ei ddefnyddio mewn amaethyddiaeth.
Tarddiad y gair
golyguO'r gair Lladin nectar (sef "diod y duwiau"), sydd ynatu'n tarddu o'r Groeg νέκταρ (néctar) sef "gorchfygwr angau".
Planhigion y gellir eu tyfu i hybu neithdar
golyguNeithdar yn y gwanwyn
golygu- Aubretia
- Bwtsias y gôg
- Meillion
- Blodyn llefrith
- Llygad y dydd
- Dant y llew
- Ysgorpionllys
- Arian parod (Blodau papur)
- Trilliw
- Briallen
- Blodyn y fagwyr