Gwenyth Petty

actores a aned yn 1930

Actores a darlledwraig yw Gwenyth Petty (ganwyd 1930)[1]. Mae'n fam i'r gyflwynwraig deledu Sara Edwards.

Gwenyth Petty
Ganwyd1930 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PlantSara Edwards Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Fe'i magwyd yng Nghrug-y-Bar, Sir Gaerfyrddin ac yn nhref Maesteg yn Sir Forgannwg. Yn blentyn roedd wrth ei bodd yn gwrando ar y radio. Yn ystod y rhyfel roedd ei mam yn helpu tu ôl y llenni yn Neuadd y Dref Maesteg a'r Theatr Fach. Daeth enwogion y cyfnod i berfformio yno gan aros gyda'r teulu, lle gwnaethon nhw argraff barhaol ar y Gwenyth ifanc.

Aeth i astudio yn Ysgol Rose Bruford ac yna RADA.

Gyrfa golygu

Cychwynnodd ei gyrfa yn stiwdios BBC Abertawe yn yr Uplands ac ar Heol Alexandra lle byddai'n perfformio'n fyw i'r genedl ar y radio. Un diwrnod gofynnwyd iddi ddarllen i fardd yn yr ystafell gerllaw, sef Dylan Thomas. Roedd yn rhan o gast gwreiddiol Under Milk Wood a ddarlledwyd yn fyw ar wasanaeth Third Programme y BBC, ac aeth ymlaen i fod yn rhan o gast Under Milk Wood yn Theatr y Glôb yn Llundain. Roedd hi'n aelod o Gwmni Sefydlog y BBC gan chwarae rhannau mewn nifer o'r clasuron o Ibsen i Shakespeare a gan awduron o Gymru megis Saunders Lewis.

Ymddangosodd mewn sawl ffilm a rhaglen deledu. Un o'i ffilmiau cyntaf oedd David a wnaed ym 1951 gan Paul Dickson ac sy'n seiliedig ar dref lofaol Rhydaman. Mae hi hefyd wedi ymddangos yn Theory of Flight gyda Kenneth Branagh, The Dark gyda Sean Bean a Very Annie Mary gyda Kenneth Griffith ymysg ffilmiau eraill.

O ran gwaith teledu ymddangosodd yn y dramâu Y Palmant Aur a Teulu ar S4C a Mortimer's Law ar gyfer BBC One. Ymddangosodd hefyd yn y gomedi sefyllfa Nyth Cacwn.[2]

Mae'n trafod ei bywyd hithau a'i merch Sara yn y gyfrol Gwenyth Petty a Sara Edwards (Gomer, 2013).

Bywyd personol golygu

Priododd y llawfeddyg John M. Edwards yn 1956 a ganwyd eu merch Sara yn 1960.[3]

Anrhydeddau golygu

Fe'i hurddwyd i'r wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn Rhagfyr 2018, dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddi gan Brifysgol Abertawe.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 20 December 2018.
  2. 2.0 2.1  Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r actores a'r ddarlledwraig o Gymru, Gwenyth Petty.. Prifysgol Abertawe (19 Rhagfyr 2018).
  3. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 20 December 2018.

Dolenni allanol golygu