Sara Edwards
Cyflwynydd yw Sara Edwards (ganwyd yn 1960). Bu'n cyd-gyflwyno rhaglen newyddion nosweithiol BBC Wales Today.
Sara Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1960 Caerdydd |
Man preswyl | Llundain, Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Swydd | Arglwydd Raglaw Dyfed |
Mam | Gwenyth Petty |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Sara yng Nghaerdydd ac fe'i magwyd a'i haddysgu yn Llundain, lle astudiodd hanes canoloesol a modern cynnar.
Fe gychwynnodd ei gyrfa gyda Capital Radio, a chyfrannodd eitemau yn rheolaidd i BBC Radio Four, ac roedd yn gyflwynydd cyswllt a darllenydd newyddion i HTV West cyn ymuno â BBC Cymru. Mae Sara wedi cyflwyno yn rheolaidd o Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol, a gwnaeth sawl cyfres i BBC 2W.[1]
Cyhoeddwyd yn Awst 2007 ei bod yn gadael BBC Wales Today i ddilyn prosiectau eraill, ac mai ei holynydd fyddai Lucy Owen a drosglwyddodd o raglen newyddion ITV Cymru.[2][3]
Bywyd personol
golyguMae Sara yn ferch i'r llawfeddyg John M. Edwards M.S.,F.R.C.S.,F.A.C.N.M a'r actores a darlledwraig Gwenyth Petty. Mae'n briod i'r hanesydd milwrol Dr.Jonathon Riley. Mae gan Sara un ferch, Hannah Elinor Alys, a anwyd ar 19 Mawrth 2006.
Mae diddordebau Sara yn cynnwys theatr, cerddoriaeth, cyngherddau, coginio—mae ganddi ddiploma coginio proffesiynol o ysgol coginio La Petite Cuisine yn Llundain—peintio, a chefn gwlad, am fod gan ei theulu fferm yng Ngorllewin Cymru. Mae'n mwynhau golff, tenis, rasio ceffylau a marchogaeth.
Mae Sara yn Is-Arglwydd Raglaw Dyfed. Mae hi'n gefnogwr i gynllun Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru ac wedi cyflwyno Gwobrau Aur ar ran Dug Caeredin yn St James' Palace. Mae hi yn ymwneud ag Ymchwil Cancr Cymru,[4] a Sefydliad Prydeinig y Galon; mae ar gyngor Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan,[5] yn Chwaer o Ambiwlans St. John,[6] ac roedd ar fwrdd Asiantaeth Ieuenctid Cymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "BBC – Press Office – Sara Edwards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-22. Cyrchwyd 2015-11-23.
- ↑ Changing faces of BBC Wales news BBC News – 29 August 2007
- ↑ TV's Sara tells real story behind Beeb axe Marc Baker, Wales On Sunday – September 2, 2007
- ↑ Welcome to the Wales Cancer Institute – Latest News
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-05. Cyrchwyd 2015-11-23.
- ↑ "St John Ambulance Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-13. Cyrchwyd 2015-11-23.