Kabardino-Balkaria

Un o weriniaethau Rwsia a deiliad ffederal a leolir yng Ngogledd y Cawcasws yw Gweriniaeth Kabardino-Balkar (Rwseg: Кабарди́но-Балка́рская Респу́блика; Kabardieg: Къэбэрдей-Балъкъэр Республикэ; Balkareg: Къабарты-Малкъар Республика), neu Kabardino-Balkaria (Rwseg: Кабарди́но-Балка́рия neu Kabardino-Balkarskaya Respublika, neu Kabardino-Balkariya).

Map o Kabardino-Balkaria
Baner Kabardino-Balkaria

Sefydlwyd y weriniaeth ar 5 Ionawr 1936. Mae gan ddi boblogaeth o 901,494 (2002). Y brifddinas yw Nalchik.

Gyda arwynebedd o 12,500 km², mae'r weriniaeth yn ffinio â Stavropol Krai, Gweriniaeth Gogledd Ossetia-Alania a Gweriniaeth Karachay-Cherkess yn Rwsia ei hun ac mae'n gorwedd hefyd ar y ffin rhwng Rwsia a Georgia, i'r de. Yma ceir mynyddoedd uchaf y Cawcasws, yn cynnwys Mynydd Elbrus (5,642 m), y mynydd uchaf yn Ewrop gyfan.

Arsen Kanokov yw'r arlywydd presennol.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: