Gwesty Robin Hood, Trefynwy

tafarn yn Nhrefynwy

Saif Gwesty Robin Hood yn 124-126 Heol Mynwy yng nghanol Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru. Mae'n tarddu'n ôl i ddiwedd yr Oesoedd Canol.[1] Fe'i codwyd o garreg ac mae ganddo borth llydan sy'n tarddu'n ôl i'r 15g.[2] - sy'n nodwedd brin iawn yn yr ardal hon.

Gwesty Robin Hood
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr17 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8095°N 2.71921°W, 51.80949°N 2.71932°W Edit this on Wikidata
Cod postNP25 3EQ Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcarreg, llechfaen Edit this on Wikidata

Fe'i benodwyd yn adeilad rhestredig Gradd II* gan Cadw ar 27 Mehefin 1952.[3]

Pabyddiaeth

golygu

Arferai Trefynwy fod yn gyrchfan poblogaidd i Babyddion.[4] Pan roedd Michael Watkins yn rhedeg y gwesty yn y 1770au caniataodd i'r offeren gael ei gynnal yma yn yr oruwchystafell.[5][6] Ar y pryd, roedd y Deddfau Penyd yn erbyn Pabyddion mewn grym - hyd at 1778. Ymgyrchodd Watkins yn llwyddiannus (drwy ddeisebu) Ynadon y dref i ganiatau addoli mewn adeilad - a dyfodd yn ei dro i fod yn Eglwys y Santes Fair.

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Mae rhai'n honi mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaerniaeth unigryw.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. John Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, Penguin Books, 2000, ISBN 0-14-071053-1, t.410
  2. "Gwesty Robin Hood, 126 Heol Mynwy, Trefynwy | Site Details | Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-12. Cyrchwyd 2012-04-06.
  3. The Robin Hood Inn (Nos.124 & 126) - Monmouth - Monmouthshire - Wales | British Listed Buildings
  4. Snell, K.D.M. (2000). Rival Jerusalems: the geography of Victorian religion p.249. Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-77155-9.CS1 maint: display-authors (link)
  5. Keith Kissack, Monmouth and its Buildings (Logaston Press), t.79
  6. Cymdeithas Ddinesig Trefynwy, Llwybr Treftadaeth Trefynwy, n.d., t.18