Gwesty The Beaufort Arms, Trefynwy

adeilad yn Nhrefynwy

Gwesty a thafarn yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, Cymru, ydy Gwesty'r Beaufort Arms sy'n dyddio nôl i'r 18g. Mae ffrynt y gwesty, fodd bynnag, yn fwy diweddar gan iddo gael ei foderneiddio yn Oes Victoria, fwy na thebyg gan y pensaer lleol, sef George Vaughan Maddox, a hynny yn y 1830au.[1] Ceir ysgrifen wedi'i naddu ar garreg cornis yn y bloc canol, sy'n darllen: "The Beaufort Arms".[2] Cofrestrwyd yr adeilad fel Gradd II* ym Mehefin 1952.[3]

Gwesty The Beaufort Arms
Mathgwesty, tafarn, adeilad hanesyddol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1830s Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr24.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.812°N 2.71496°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO 50808 12838 Edit this on Wikidata
Cod postNP25 3UA Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).

Pensaerniaeth

golygu

Mae'r gwesty y drws nesaf i Neuadd y Sir. Ceir buarth neu iard helaeth yn y cefn gyda stablau ar gyfer ceffylau tynnu coetsis. Trowyd yr adeilad yn fflatiau a siopau yn 1989.[1] Adferwyd y tu fewn gryn dipyn i gydymffurfio gyda Rheolau Adeiladu a Chynllunio; yr unig henebau o ddiddordeb sydd ar ôl, bellach, ydy'r cyntedd gyda'i golofnau Ionic a rhan o'r grisiau.[2]

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).

Fe alwyd yr adeilad hwn ar ôl Dug Beaufort: perchennog y tir ar y pryd. Yn ôl Charles Heath, a sgwennai yn 1804, cyfuniad oedd y gwesty o ddau adeilad cynharach: dau tenement - y naill yn gigydd a'r llall yn werthwr grawn.[4] Ar ddechrau'r 18g, daeth Mr John Tibbs yn berchennog a lluniodd arwydd i'r Gwesty sef llun portculis. Wedi codi Neuadd y Sir, daeth y gwesty'n lle poblogaidd iawn: a hynny yn 1724. Dywedir fod y balconi sy'n wynebu Sgwâr Agincourt ar adegau'n cael ei ddefnyddio gan y Dug Beaufort i annerch y dorf, cyn ethoiladau.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, tudalen 405
  2. 2.0 2.1 2.2 Beaufort Arms Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback, Royal Commission on the Ancient Monuments of Wales, Adalwyd Ionawr 2012; gwefan Coflein.
  3. Beaufort Arms, British Listed Buildings, Adalwyd Ionawr 2012
  4. Charles Heath (1804) Historical and Descriptive Accounts of the Ancient and Present State of the Town of Monmouth