Gwesty a Sba Dewi Sant
Gwesty pum seren[1] yng Nghaerdydd yw Gwesty a Sba Dewi Sant (Saesneg: St David's Hotel & Spa), ychydig oddi ar ffordd yr A4232, ac yn agos i orsaf reilffordd Bae Caerdydd.
Math | gwesty |
---|---|
Enwyd ar ôl | Dewi Sant |
Agoriad swyddogol | 1999 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4605°N 3.1673°W |
Rheolir gan | Principal Hayley Group |
Hanes
golyguHwn oedd y gwesty pum seren cyntaf yng Nghymru,[2] ac mae gan yr adeilad gyntedd uchel a tho sy'n ymdebygu hwyl cwch i adlewyrchu ei leoliad wrth ochr y bae. Mae'r gwesty ar lannau Bae Caerdydd gyda golygfeydd dros Gei'r Forforwyn a Morglawdd Bae Caerdydd.
Perchennog gwreiddiol y gwesty oedd grŵp Gwestai Rocco Forte. Fe'i prynwyd gan Grŵp Principal Hayle yn 2007.
Llety
golyguMae 142 o stafelloedd ar gael i westai yn cynnwys rhai sengl, dwbl a swît. Gall y gwestai fwyta yn Tides Bar and Grill, sy'n gweini bwyd o Gymru.
Mae gan y gwesty wyth ystafell gyfarfod sy'n dal hyd at 40 bobl yr un. Mae gan ystafell Dylan Thomas le i eistedd uchafswm o 270 ac ystafell Roald Dahl yn dal hyd at 200.
Adnoddau
golyguMae Spa Dewi Sant yn cynnig therapi thalasso ynghyd â thriniaethau holistaidd ac aromatherapi. Mae'r adnoddau yn cynnwys pwll nofio, pyllau hydrotherapi a champfa.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Automobile Association rating
- ↑ 1999 - the year of Cool Cymru BBC Wales News, 25 Rhagfyr 1999.