Gorsaf reilffordd Bae Caerdydd

Mae gorsaf reilffordd Bae Caerdydd (Saesneg: Cardiff Bay railway station), a adnabyddid gynt fel "Caerdydd Heol Bute", yn orsaf sydd yn gwasanaethu Bae Caerdydd ac ardal Tre-Biwt. Mae'n derfyn deheuol Llinell Gangen Butetown un filltir (1.5 km) i'r de o orsaf Heol y Frenhines.

Gorsaf reilffordd Bae Caerdydd
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1840 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBae Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4671°N 3.1665°W Edit this on Wikidata
Cod OSST190748 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafCDB Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrafnidiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Map

Dim ond un llwyfan sydd bellach yn cael ei defnyddio, gydag adeilad yr orsaf ei hun wedi'i gadael i fynd a'i ben iddo i bob pwrpas. Mae adeilad yr orsaf yn gorwedd ar Stryd Bute, er bod gweddill yr orsaf yn parhau i fod yn weladwy o Rodfa Lloyd George.

Mae'r orsaf o fewn pellter cerdded i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu darparu gan Trafnidiaeth Cymru.

Agorodd yr orsaf fel gorsaf "Dociau Caerdydd" ym 1840 gan y Taff Vale Railway (peiriannydd: Isambard Kingdom Brunel). Ail-enwyd yn orsaf "Stryd Biwt" gan Reilffordd y Great Western ym 1924, cyn newid i'w enw presennol ym 1994. Adnewyddwyd yr adeilad yn ystod yr 1980au a defnyddiwyd am gyfnod fel amgueddfa reilffordd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Reilffordd Hanesyddol Biwt (a symudodd ym 1997 i Reilffordd Bro Morgannwg).[1]

Gwasanaethau

golygu

Mae yna wasanaethau rhwng Heol y Frenhines a Bae Caerdydd bob 12 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (rhwng 0630 a 2330) a phob 12 munud ar ddydd Sul (rhwng 1100 a 1630). Mae'n cael ei redeg gan "car swigen" Dosbarth 121, a adeiladwyd ym 1960.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hutton, John (2006). The Taff Vale Railway, vol. 1. Silver Link