Gwilym R. Jones
bardd Cymraeg
Bardd a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993). Cafodd ei fagu yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.
Gwilym R. Jones | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1903 ![]() Tal-y-sarn ![]() |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1993 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr ![]() |
GyrfaGolygu
Dechreuodd ei waith fel newyddiadurwr ar staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon cyn symud i Faner ac Amserau Cymru yn 1945. Cyhoeddodd pum cyfrol o gerddi ynghyd â dwy nofel fer, Y Purdan (1942) a Seirff yn Eden (1963). Yn yr Eisteddfod Genedlaethol enillodd y Gadair yn 1938, y Goron (1935) a'r Fedal Ryddiaith (1941). Bu farw yn 1993 yn ddeg ar bedair ugain oed.
LlyfryddiaethGolygu
BarddoniaethGolygu
- Caneuon (1935)
- Cerddi (1969)
- Y Syrcas (1975)
- Y Ddraig (1978)
- Eiliadau (1981)
RhyddiaithGolygu
- Y Purdan (1942)
- Seirff yn Eden (1963)
AstudiaethauGolygu
- W.I. Cynwil Williams (gol.), Bro a Bywyd: Gwilym R. Jones 1903-1993 (Cyhoeddiadau Barddas, 2001)