Tir gyda lefel uchel o ddŵr ynddo yw gwlyptir, a gall gynnwys mathau o rostiroedd fel a geir yng Nghymru, corsydd fel a welir ym Masn yr Amason neu fangrof le tyf coed. Maent i'w cael ym mhob cyfandir ar wahân i Antarctica,[1]

Rhostir mawn yn Parc national de Frontenac (Québec, Canada)
Llyffant Llewpad y Gogledd
Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru o rai o wlyptiroedd Cymru.

Ymhlith y planhigion a geir mewn gwlyptiroedd y mae: Acasia pren du ac Addurnwy ac maent yn werthfawr oherwydd y bywyd gwyllt cyfoethog sy'n byw ynddynt.

Ar adegau, creir gwlyptiroedd yn fwriadol gan ddyn er mwyn rheoli dŵr.

Yng Nghymru mae rhai o'r gwlyptiroedd iseldir gorau yn Ewrop: 11 ohonynt wedi cael eu diogelu fel safleoedd sy'n cael eu gwarchod gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ar un adeg roedd gwlyptiroedd yn gyffredin ond mae draenio ac amaethyddiaeth wedi lleihau'r nifer o gorsydd. Mae'r amodau asidig a gwlyb yn creu mawn sydd wedi adeiladu, haen ar haen, dros y 10,000 o flynyddoedd, gan gloi carbon a'n helpu i leihau nwyon tŷ gwydr, ond gall difrod i'r cynefinoedd hyn ryddhau'r carbon hwn ac achosi iddynt sychu. Maen gwlyptiroedd Cymru hefyd yn baradwys i fywyd gwyllt, yn gyfoethog mewn planhigion, pryfed ac adar. Rheolir y cynefinoedd hyn er mwyn amddiffyn y bywyd gwyllt; mae gwlyptiroedd hefyd yn amddiffyn trefedigaethau rhag llifogydd a newid yn yr hinsawdd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "US EPA". Cyrchwyd 2011-09-25.