Gwobr Goffa Dr John Davies
Gwobr goffa dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw Gwobr Goffa Dr John Davies. Dyfernir hi am y traethawd estynedig gorau yn y Gymraeg ar unrhyw agwedd ar hanes Cymru gan fyfyriwr israddedig.
Fe'i henwyd ar ôl yr hanesydd amlwg ac awdur Hanes Cymru, Dr John Davies. Dyfarnwyd Dr Davies yn Gymrawd o'r Coleg Cymraeg yn 2013. Adnabuwyd Dr Davies fel John Davies 'Bwlchllan' ar lafar. Bu’n astudio yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, Coleg y Drindod, Caergrawnt ac fe’i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Bu am 18 mlynedd yn warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, ac yn darlithio - yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg - yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith.
Enillwyr y Wobr
golygu- 2016 - Catrin Howells, Ponterwyd, myfyrwraig y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd, "A yw creu Awdurdodaeth Gyfreithiol ar wahân i Gymru bellach yn anorfod?"
- 2017 - Ceiri Wyn Corker, Boduan, myfyriwr Hanes, Prifysgol Bangor, "Archwiliad i’r cysylltiad rhwng pêl-droed a chymdeithas a hunaniaeth yng ngogledd Cymru"
- 2018 - Elen Mererid Osmond Hughes, Prifysgol Aberystwyth, "Archwilio egwyddorion imperialaeth newydd y 18eg ar 19eg ganrif yng Nghymu’r oesoedd canol yn dilyn concwest Edward y Cyntaf"
- 2019 - Michelle Rafferty, Prifysgol Aberystwyth
- 2020 - Llinos Mai Anwyl Evans, Prifysgol Aberystwyth
- 2021 - Anwen Rhiannon Jones, Prifysgol Caerdydd
- 2022 - Charles Roberts, Prifysgol Bangor