Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan
Gwobr genedlaethol yw Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan, sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn am gyfraniad nodedig unigolyn o dan ddeugain oed i faes gwyddorau ac addysgu’r gwyddorau drwy’r Gymraeg. Dyfernir y wobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sefydlwyd y wobr er cof am y Dr Eilir Hedd Morgan, darlithydd ecoleg forol gyda’r Coleg Cymraeg, a laddwyd mewn damwain yn 2013 yn 29 oed[1].
Enillwyr y wobr
golygu- 2014 - Dr Huw Morgan, darlithydd Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth[2].
- 2015 - Dr Hywel Griffiths, darlithydd Daearyddiaeth Ffisegol, Prifysgol Aberystwyth[3].
- 2016 - Yr Athro Siwan Davies, athro Daearyddiaeth, Prifysgol Abertawe[4].
- 2017 - Dr Prysor Williams, uwch-ddarlithydd Rheolaeth Amgylcheddol, Prifysgol Bangor[5].
- 2018 - Dr Tudur Davies, darlithydd mathemateg, Prifysgol Aberystwyth
- 2019 - Dr Marie Busfield, uwch-ddarlithydd gwyddorau daear amgylcheddol, Prifysgol Aberystwyth
- 2020 -
- 2021 -
- 2022 - Dr Hefin Williams, uwch-ddarlithydd amgylchedd amaethyddol, Prifysgol Aberystwyth
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan". Coleg Cymraeg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-02.
- ↑ "Cyhoeddi enw enillydd cynta' Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan". Golwg360.
- ↑ "Is-olygydd yn derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan". Gwerddon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21.
- ↑ "Yr Athro Siwan Davies yn derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan". Prifysgol Abertawe.
- ↑ "Dr Prysor Williams yn derbyn Gwobr am ei gyfraniad i wyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg". Prifysgol Bangor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21.
Dolenni allanol
golygu- Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan, Coleg Cymraeg Archifwyd 2017-10-02 yn y Peiriant Wayback