Hywel Griffiths

Daearyddwr, bardd a nofelydd o Gymro

Bardd, awdur, darlithydd ac ymgyrchydd gwleidyddol[1] yw'r Prifardd Ddr Hywel Meilyr Griffiths (ganed 18 Mawrth 1983)[2] .

Hywel Griffiths
Ganwyd18 Mawrth 1983 Edit this on Wikidata
Ysbyty Cyffredinol Glangwili Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
TadTweli Griffiths Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Tir na n-Og Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://hywelgriffiths.cymru/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Hywel Griffiths yng Nghaerfyrddin ac fe'i magwyd ar fferm ger Llangynog. Ei dad yw'r newyddiadurwr adnabyddus Tweli Griffiths. Mynychodd Ysgol Gynradd Llangynog, Ysgol Gyfun Bro Myrddin a Phrifysgol Aberystwyth. Mae'n gweithio fel darlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol erbyn hyn.[3][4] Mae hefyd yn gyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.[5]

Hywel oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith am flwyddyn a hanner rhwng Mawrth 2007 a Hydref 2008.

Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2004 (Ynys Môn) ac yn 2007 (2007), a Choron Eisteddfod Caerdydd 2008 gyda'i ddilyniant o gerddi rhydd ar y testun "Stryd Pleser" dan yr enw Y Tynnwr Lluniau.[6] Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015.[7]

Cyrhaeddodd ei gasgliad unigol cyntaf o gerddi, Banerog, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2009. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2011 yng nghategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd gyda'i nofel gyntaf i blant, sef Dirgelwch y Bont[6].

Llyfryddiaeth

golygu

Barddoniaeth

golygu

Llyfrau plant

golygu

Erthyglau

golygu
  • "Geomorffoleg afonol Cymru: heddiw, ddoe ac yfory", Gwerddon 2(3) (2008): tud. 40-83)

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwybodaeth Lyfryddol: Banerog. Gwales.
  2.  Adnabod Awdur: Hywel Griffiths (PDF). Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  3.  Adnabod Awdur: Hywel Griffiths. Cyngor Llyfrau Cymru (2011).
  4.  Staff Academaidd » Griffiths,Hywel. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
  5.  Comment is free... > Hywel Griffiths > Profile. The Guardian. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
  6. 6.0 6.1  Rhestr Awduron Cymru: GRIFFITHS, HYWEL. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
  7. Hywel Griffiths yn ennill Cadair Eisteddfod 2015. Adalwyd 7 Awst 2015

Dolenni allanol

golygu