Gwobrau Michael Marks am Bamffledi Barddoniaeth

Mae Gwobrau Michael Marks am Bamffledi Barddoniaeth (a sefydlwyd yn 2009) yn gyfres o wobrau llenyddol Prydeinig am ysgrifennu a chyhoeddi pamffledi barddoniaeth. Oddi ar 2012, gweinyddir y gwobrau gan Ymddiriedolaeth Wordsworth mewn cydweithrediad â'r Llyfrgell Brydeinig a'r Times Literary Supplement, a chefnogaeth ariannol Ymddiriedolaeth Elusennol Michael Marks.

Gwobrau Michael Marks am Bamffledi Barddoniaeth
Enghraifft o'r canlynolpoetry award Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2009 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://michaelmarksawards.org Edit this on Wikidata

Crëwyd y wobr i ddangos pa mor effeithiol y gall pamffledi - a ddiffinnir gan y wobr fel llyfryn hyd at 36 thudalen - fod wrth gyflwyno barddoniaeth newydd i ddarllenwyr.[1] Canmolodd Seamus Heaney sefydlu’r wobr fel cam "ysbrydoledig".

Roedd dau gategori i'r gwobrau yn wreiddiol - sef y pamffled barddoniaeth gorau yn Saesneg, a'r cyhoeddwr pamffledi gorau. Yn fwy diweddar, ychwanegwyd dau gategori ychwanegol, sef gwobr am ddarlunio (ers 2018) a gwobr am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd (ers 2019).

Morgan Owen oedd enillydd cyntaf y wobr am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd gyda'i gasgliad moroedd/dŵr a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau'r Stamp.[2]

Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd golygu

Mae Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd yn cydnabod pamffled rhagorol o farddoniaeth a gyhoeddwyd mewn iaith Geltaidd yn y DU.

Yn y tabl isod, gwelir rhestr o bamffledi'r rhestrau hir. Caiff yr enillwyr eu dangos mewn print trwm ar frig pob blwyddyn.

Blwyddyn Awdur Teitl Cyhoeddwr Beirniaid
2020[3] Rhys Iorwerth carthen denau Cyhoeddiadau'r Stamp
Elinor Wyn Reynolds Dy Galon Ofalus / Your Careful Heart Rack Press
2019[4] Morgan Owen moroedd/dŵr Cyhoeddiadau'r Stamp
Tanya Brittain Genev Dons Hunan-gyhoeddiad
Grug Muse Llanw + Gorwel Hunan-gyhoeddiad
David Greenslade Neu Hunan-gyhoeddiad
Dyfan Lewis Golau Gwasg Pelydr
Dyfan Lewis Mawr a cherddi eraill Gwasg Pelydr
Caryl Bryn Hwn ydy'r llais, tybad? Cyhoeddiadau'r Stamp
Iestyn Tyne Cywilydd Cyhoeddiadau'r Stamp
Cris Dafis Mudo Cyhoeddiadau'r Stamp

Cyfeiriadau golygu

  1. Alison Flood (25 June 2009). "Poetry pamphlet award goes to Elizabeth Burns". The Guardian. Cyrchwyd 20 September 2012.
  2. "Newyddion: Gwobr Michael Marks". ystamp-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-12. Cyrchwyd 2019-12-12.
  3. "Paul Muldoon wins £5,000 Michael Marks pamphlet award | Write Out Loud". www.writeoutloud.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-16.
  4. "Gwobrwyo Pamffledi Barddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-07. Cyrchwyd 2020-10-07.